BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 25 Medi, 2004, 16:20 GMT 17:20 UK
Newyddion Cymru
Dyma'r newyddion yn gryno o Gymru:


Bachgen wedi ei daro gan fws

Yn Abertawe, mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i fachgen ifanc cael ei daro gan fws ddydd Sadwrn.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn ardal Blaenymaes.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y bachgen mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafwyd hyd i feic plentyn ger y ddamwain.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.


Gosod sticeri er mwyn deddf iaith

Nos Wener bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn targedu nifer o gwmnïau preifat gan osod sticeri ar ffenestri banciau, siopau ac archfarchnadoedd yn Y Fflint.

Roedd y sticeri yn gofyn "Ble mae'r Gymraeg?".

Yn ôl y Gymdeithas mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Ddeddf Iaith bresennol yn "cyffwrdd â'r sector breifat".

Dywedodd y Gymdeithas bod hyn yn gychwyn ar gyfnod o bwyso am yr angen o Ddeddf Iaith newydd.

"Penderfynodd Cymdeithas yr Iaith gychwyn ar gyfnod o ymgyrchu gweithredol er mwyn ailgodi yr angen am Ddeddf Iaith Newydd," meddai Huw Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas.

"Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmnïau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o'u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg.

"Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd."


Symud morfil marw

Mae gweithwyr wedi dechrau ar y broses o symud morfil 60 troedfedd o hyd a gafodd ei olchi i'r lan yn ardal Casnewydd.

Cafodd y morfil ei olchi i'r lad ddydd Iau.

Mae cannoedd o bobl wedi ymweld â'r safle, ers i ddyn sylwi ar y creadur tra'n mynd â'i gi am dro.


Tagfeydd ar yr A55

Mae rhan o lôn ddwyreiniol ffordd y A55 yn y gogledd ger Allt Rhuallt ar gau ar hyn o bryd.

Fe wnaeth un o garfanau Heddlu'r Gogledd droi drosodd yno.

Mae'r heddlu yn y broses o symud y cerbyd ar hyn o bryd.

Cafodd yrwyr yn yr ardal rybudd am dagfeydd yn yr ardal.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^