Mae Stephen Jones wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd
|
Mae maswr Cymru, Stephen Jones, wedi cytuno i ymuno â chlwb Montferrand yn Ffrainc.
Mae Jones wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i chwarae ar Parc des Sports Marcel-Michelin.
"Mae'r clwb yma wedi bod yn agos iawn at fy nghalon, a bydd yn anodd iawn gadael," meddai Jones, sydd wedi ennill 40 cap dros Gymru.
Ymunodd Jones â Llanelli ym 1996 ac mae wedi chwarae dros 200 o gemau a sgorio bron i 2,000 o bwyntiau i'r clwb o Barc y Strade.
Mae Montferrand drwodd i rownd derfynol Cwpan y Parker Pen yn Ewrop, ond maen nhw yn chwarae yng ngemau ail gyfle Ffrainc er mwyn ceisio osgoi disgyn i'r ail adran.
Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod yn unig wedi i gefnwr Cymru a'r Rhyfelwyr, Gareth Thomas, ymuno â chlwb Toulouse.