BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Mai, 2004, 05:51 GMT 06:51 UK
Cwmni halen yn ceisio ehangu
Halen Mr Mn
Mae Halen Mr Mn yn cael ei argymell gan sawl cogydd amlwg
Mae yna obaith am 20 o swyddi newydd ar Ynys Mn wrth i gwmni cynhyrchu halen sn am ehangu.

Mae Halen Mr Mn o Frynsiencyn wedi gwneud cais i godi estyniad i'w ffatri bresennol ar lannau'r Fenai.

Eisoes mae'r cwmni'n gwerthu ei gynnyrch i sawl gwlad.

Sŵ Mr Mn sydd berchen y cwmni halen.

Oherwydd bod y cynllun arfaethedig mewn ardal ddeniadol, bwriad y cwmni yw rhoi to gwellt ar yr adeilad fel na fydd yn tynnu gormod o sylw.

Mae Halen Mr Mn ar werth mewn archfarchnadoedd yn ogystal siopau arbenigol drwy Wledydd Prydain ac ar gael hyd yn oed yng Nghatalonia, Sbaen.

Hefyd mae wedi cael ei ddefnyddio gan gogyddion ar deledu.

Fis Gorffennaf diwethaf, dangoswyd yr halen ar raglen Martha Stewart yn America ac yn l y cwmni mi lifodd archebion dros y we iddyn nhw.

Y llynedd, hefyd, mi wnaeth y cwmni ennill gwobr Gymreig am allforio.

I gynhyrchu'r halen mae dŵr yn cael ei dynnu o'r Fenai ac yna'n cael ei sychu.

Mae'r cwmni eisoes wedi gyrru cais am yr estyniad newydd i Gyngor Mn ac mae'n disgwyl ymateb o fewn wyth i 12 wythnos.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^