BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 29 Ebrill, 2004, 17:46 GMT 18:46 UK
Tor´aid yn lansio ymgyrch Ewrop
Michael Howard yn cyfarfod cefnogwyr yng Nghaerdydd
Michael Howard yn cyfarfod cefnogwyr yng Nghaerdydd

Mae Michael Howard wedi amlinellu gwrthwynebiad ei blaid i gyfansoddiad i'r Undeb Ewropeaidd drwy fynnu nad yw'r Ceidwadwyr am fod yn rhan o 'wlad o'r enw Ewrop'.

Wrth lansio ymgyrch y Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau Ewrop rhybuddiodd y byddai'r cytundeb ar y cyfansoddiad yn rhoi elfennau talaith i'r Undeb Ewropeaidd.

O dan reolaeth Geidwadol byddai 25% o reolau presennol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu diddymu, meddai.

Hefyd heriodd y prif weinidog, Tony Blair, unwaith eto am ddadl deledu ar y cyfansoddiad.

Datgelodd Mr Howard faniffesto ei blaid ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop ar 10 Mehefin yn ystod ymweliadau Ô Chaerdydd, Manceinion a Chaeredin ddydd Iau.

Daw hyn wedi tro pedol Mr Blair ar refferendwm ar gyfansoddiad yr Undeb Ewropeaidd, rhywbeth y bu'r Ceidwadwyr yn galw amdano.

Mynnodd Mr Howard ei fod am i Brydain aros yn aelod "cadarnhaol a dylanwadol" o'r Undeb Ewropeaidd.

Ond dadleuodd y byddai'r cyfansoddiad sy'n cael ei gynnig yn tanseilio gallu Prydain i benderfynu ei bolis´au ei hun ar geiswyr lloches, cyfraith a threfn a'r economi.

Rheolau 'diangen'

"Byddai'n rhoi i'r Undeb Ewropeaidd elfennau talaith - ei lywydd ei hun, gweinidog tramor a system gyfreithiol," meddai.

Ond roedd ei araith yn canolbwyntio yn bennaf ar ei addewid i gael gwared o reolau "diangen" yr Undeb Ewropeaidd.

"Fe fyddwn ni'n annog hyblygrwydd er mwyn i fusnesau ffynnu. Rydyn ni eisiau diddymu o leiaf 25% o reolau presennol yr Undeb Ewropeaidd..." meddai.

Byddai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno cymalau i bob rheol newydd fel y byddai'r rheolau yn diflannu wedi cyfnod penodol o amser.

Ar hyn o bryd mae gan y Ceidwadwyr 36 o 87 o seddi Prydain yn Senedd Ewrop, y nifer mwyaf gan blaid wleidyddol o Brydain.

Bydd nifer seddi Prydain yn gostwng i 78 wedi i'r Undeb Ewropeaidd ehangu.




Etholiadau

ETHOLIAD EWROP

ETHOLIADAU LLEOL

STRAEON CEFNDIR

GWEFANNAU'R CYNGHORAU
 

GWEFANNAU'R PLEIDIAU
 
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^