Mi fyddai'r gwasanaethau'n cael eu canoli yng Nghaerdydd
|
Mae tad yn ystyried dwyn achos cyfreithiol yn y frwydr i geisio atal israddio uned niwrolawfeddygol i blant.
Mae mab wyth oed Steve Sullivan, sef Kieran, wedi bod yn cael triniaeth yn yr uned niwrolawfeddygol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Dywed Mr Sullivan, o Gaerfyrddin, fod y cynlluniau i symud gwasanaethau i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ei ddychryn.
Fe fydd yn cyfarfod ei gyfreithwyr yr wythnos nesaf i drafod dwyn achos cyfreithiol.
Wedi iddo gael ei eni gosodwyd pibell ym mhenglog Kieran ac mae wedi cael nifer o lawdriniaethau yn Ysbyty Treforys ers hynny.
Mae ei dad yn un o arweinwyr ymgyrch sydd wedi ei sefydlu i geisio achub yr uned arbenigol a dywed ei fod "wedi ei ffieiddio, yn flin ac wedi ei ddychryn" gan y cynlluniau i ganoli gwasanaethau yng Nghaerdydd.
Mae Comisiwn Iechyd Cymru, sy'n gwneud argymhellion ynglyn â gwasanaethau o'r fath, wedi cyflwyno cynllun newydd sy'n golygu mai llawdriniaethau brys yn unig fyddai'n cael eu gwneud yn Nhreforys.
'Cadw gwasanaethau'
Dywed Dr Dai Lloyd, AC Abertawe, fod hyn fwy neu lai'n golygu cau'r uned arbenigol yn Ysbyty Treforys.
"Mi allwn ni gael siarad clyfar am gadw gwasanaethau brys, ond mae hwn yn israddio sylweddol ar uned wych," meddai.
"Yn wir, rwy'n gweld hyn fel cau uned niwrolegol Ysbyty Treforys."
Mae'r Comisiwn Iechyd yn dadlau mai dyma'r ffordd orau o gadw'r gwasanaethau niwrolawfeddygol i blant yng Nghymru.
Dywed yr Athro Ken Woodhouse, cadeirydd y comisiwn, fod yna beryg o golli'r adnoddau i Loegr.
"Ein cyngor yw, drwy gyfuno'r gwasanaethau hyn, y bydd ganddon ni wasanaeth fydd yn ddigon mawr i fod yn gynaladwy," meddai.
"Rwy'n bersonol yn ymroddedig i gadw gwasanaethau arbenigol yng Nghymru ar gyfer pobol Cymru os mai dyna yw'r dewis gorau, ac yn yr achos yma dwi'n credu mai dyna yw hyn."
Ond gwadodd y prif weithredwr Stuart Fletcher fod yr uned yn Nhreforys i gau.
"Mi fyddwn yn sicr yn cadw'r ddarpariaeth ar gyfer achosion niwrolawfeddygol brys yn Abertawe," meddai.
"Gwnaethpwyd yn glir i ni fod pobol gorllewin Cymru yn awyddus i'r gwasanaethau ar gyfer plant sydd angen gofal brys i barhau."
Dangosodd ymchwil ddiweddar fod tua 50 o lawdriniaethau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd bob blwyddyn, tra ond 32 oedd yna yn Abertawe.
Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo gan Gyngor Iechyd Cymunedol Abertawe yna mi all gael ei wireddu heb benderfyniad y Gweinidog Iechyd.