Mae Rhewlif San Rafael yn meirioli
|
Mae gwyddonwyr o Aberystwyth wedi darganfod bod un o atyniadau naturiol De America yn diflannu ar raddfa go sylweddol.
Mae rhewlif San Rafael yn Chile yn meirioli ac mae gwyddonwyr o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn dweud bod dros gilomedr wedi diflannu mewn 12 mlynedd.
Bob blwyddyn, mae miloedd o ymwelwyr yn ymweld â'r rhewlifoedd sy'n rhan o Safle Treftadaeth y Byd i gael gweld darnau o'r rhewlif yn disgyn i'r môr.
Yn ôl Dr Neil Glasser a'i gydweithwyr yn Aberystwyth mae'r rhew yn toddi oherwydd tymheredd awyr uchel.
Maen nhw'n rhybuddio, os ydi'r rhewlif yn symud yn ôl i'r tir, y bydd y diwydiant twristiaeth yn dioddef.
Dywedodd Dr Glasser bod y rhewlif, hefyd, yn warchodfa biosffer Unesco a pharc cenedlaethol anferth.
Symud a meirioli
"Mae'n bosib os y bydd y rhewlif yn meirioli ymhellach y bydd yn effeithio ar y tirlun sy'n denu cymaint."
Mae'r rhewlif yn rhan o Faes Iâ Gogledd Patagonia.
Dyma'r rhewlif sy'n symud fwyaf yn y byd, yn llifo 17 medr y diwrnod.
Mae'r rhewlif yn symud drwy ddisgyrchiant a'r eira sylweddol sy'n disgyn ar gopa'r Andes.
Mae'r arbenigwyr o Aberystwyth wedi gallu dangos bod blaen y rhewlif un cilomedr yn bellach yn ôl yn y dwr nag yr oedd ar ddechrau'r 1990au.
Mae'r rhewlif yma yn atyniad i floedd o ymwelwyr
|
"Rydyn ni wedi edrych ar gofnodion yn yr ardal a does dim tystiolaeth dros y 100 mlynedd diwethaf bod y glaw na'r tymheredd wedi newid yn ddramatig," meddai Dr Glasser.
Maen nhw'n credu bod y rhewlif wedi bod yn weddol sefydlog am 3,000 - 5,000 mlynedd cyn dechrau symud tua 100 mlynedd yn ôl.
"Oherwydd effeithiau tŷ gwydr, mae rhewlifoedd Gogledd Patagonia wedi bod yn meirioli yn gyflym," meddai Dr Stephen Harrison o Brifysgol Rhydychen, aelod arall o dîm Dr Glasser.
Fe wnaeth y tîm o wyddonwyr dreulio tair wythnos yn gwneud gwaith ymchwil yn yr ardal.