Roedd Lo Cut a Sleifar yn perfformio nos Wener
|
Cynhaliwyd gig yng Nghaerfyrddin nos Wener yn erbyn y ddarpariaeth Gymraeg ar Radio Sir Gār.
Yn Neuadd San Pedr roedd bandiau Cymraeg yn chwarae fel protest yn erbyn diffyg cerddoriaeth leol a Chymraeg ar yr orsaf.
Nod y gig, meddai'r trefnwyr, oedd dangos fod bandiau Cymraeg yn yr ardal ond bod hyn ddim yn cael ei adlewyrchu ar yr orsaf radio.
Yn noson Herio'r Welsh Not roedd Lo Cut a Sleifar, band Steffan Cravos sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin ac a oedd mewn protest yn yr orsaf radio yng Ngorffennaf.
Roedd Mattoidz, band o'r ardal, hefyd yn perfformio ynghyd ā Java o Lanbed, Rasputin o Landysul, Garej Dolwen o Grymych a DJ Ian Cotrell.
"Mae Radio Sir Gār yn gwrthod caneuon Cymraeg bandiau lleol," meddai Heledd Gwyndaf, swyddog rhanbarthol Cymdeithas yn Sir Gaerfyrddin.
"Dyw'r darllediadau ddim yn ddwyieithog. Mae tua 50% o boblogaeth Sir Gaerfyrddin yn siarad Cymraeg ac mae llai na 3% o ddarllediadau'r orsaf yn Gymraeg."
Honnodd fod un rhaglen oedd i fod yn Gymraeg ond mai dim ond ond wyth munud o Gymraeg oedd arni.
"Dyw'r orsaf yn amlwg ddim yn gwasanaethu anghenion y sir yn ieithyddol.
'Mwy o raglenni'
Doedd rheolwr gyfarwyddwr yr orsaf radio, Keri Jones, ddim ar gael i roi sylw ddydd Gwener.
Ond mae wedi dweud fod yr orsaf yn darlledu mwy o raglenni Cymraeg nag oedd yn ofynnol yn y cytundeb gydag Ofcom, y corff sy'n rheoli gorsafoedd radio preifat.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda mentrau iaith Sir Gaerfyrddin sy'n darlledu rhaglen wythnosol ar yr orsaf," meddai Mr Jones.
Yng Ngorffennaf cafodd 11 o aelodau Cymdeithas yr Iaith eu harestio mewn protest yn stiwdio'r orsaf yn Arberth.