Roedd penderfyniad yr Uchel Lys yn siom i rieni'r ysgol
|
Mae rhieni ysgol wledig yn Sir Benfro yn ysgrifennu at ysgolion eraill er mwyn sefydlu cronfa genedlaethol.
Yn ddiweddar, dywedodd barnwr fod penderfyniad Cyngor Sir Benfro i gau Ysgol Hermon yn deg.
Nod y cyngor oedd cau ysgolion Hermon, Blaenffos a Chrymych cyn codi ysgol ardal ar safle Ysgol Crymych.
Roedd rhieni Hermon wedi mynd i'r Uchel Lys yng Nghaerdydd i herio'r penderfyniad.
Lansiwyd y gronfa mewn cyfarfod yn Hermon nos Iau.
Dywedodd ymgyrchwyr y byddai 800 o lythyrau yn cael eu hanfon at ysgolion gwledig eraill yn gofyn am help.
Fe fu disgyblion a rhieni Hermon yn cynnal sawl protest
|
"Pe baen ni wedi cael help cronfa genedlaethol, bydden ni wedi gallu dewis ffyrdd eraill o weithredu allai fod wedi atal y rhybudd cau ac wedi sicrhau cyfle teg i herio'r bygythiad yn ystod y broses ymgynghori," meddai Cris Tomos, arweinydd ymgyrch Hermon.
"Ein bwriad yw dysgu o'n profiad a sefydlu'r gronfa bwysig hon."
Maen nhw'n gofyn i unigolion gyfrannu £1 yr wythnos a bydd ysgolion a sefydliadau eraill sy'n perswadio pobol i gyfrannu'n derbyn comisiwn.
Bydd £2,000 o wobrau'n cael eu talu allan bob mis.
Ymddwyn yn deg
Diwedd Gorffennaf dywedodd barnwr i Gyngor Sir Penfro ymddwyn yn deg wrth geisio cau Ysgol Gynradd Hermon.
Roedd 53 o ddisgyblion yn yr ysgol.
Roedd rhieni Hermon wedi dadlau y byddai cau'r ysgol yn arwain at ddiwedd ysgolion gwledig yn y sir.
Maen nhw'n ystyried camau cyfreithiol a herio'r cyngor sir ynglŷn â pherchnogaeth adeilad yr ysgol.
Yr un pryd maen nhw'n ystyried sefydlu ysgol gydweithredol yn Hermon.
Bydd Hermon yn yn cau ymhen blwyddyn pan fydd yr ysgol newydd yn agor yng Nghrymych.