 |
Straeon Glyndŵr:
|
Mae Medi 16 yn Ddiwrnod Owain Glyndŵr ond pwy oedd Owain Glyndŵr sy'n ffigwr mor allweddol yn hanes Cymru?
Cafodd Owain Glyndŵr (Owain Glyndyfrdwy) ei eni tua 1350 a daeth yn arglwydd yng Nglyndyfrdwy ger Corwen a Sycharth ger Y Waun.
Dyn y gororau ydoedd a dim ond milltir o'r ffin â Lloegr yr oedd Sycharth.
Roedd ar ochr ei dad yn etifedd llinach Powys Wenwynwyn. Ar ochr ei fam roedd yn cynrychioli'r hyn oedd yn cael ei hawlio gan ddinasyddion yr Arglwydd Rhys o'r Deheubarth.
Daeth llinach wrywaidd dinasyddiaeth Gwynedd i ben gyda marwolaeth Owain Lawgoch yn 1378.
Roedd cysylltiadau Glyndŵr â'r llinach honno yn ddigon iddo ystyried ei hun â'r hawl i'r teitl Tywysog Cymru.
Llwyddodd Owain Glyndŵr i ryddhau Cymru o grafangau'r Saeson
|
Roedd ei deulu'n byw o dan gysgod uchelwyr y Mers, yr Arglwyddi Fitzalan yn Y Waun a Chroesoswallt.
Priododd Owain ferch o un o deuluoedd blaenllaw y Mers a bu'n byw bywyd digon tawel hyd at tua 1399 gan astudio'r gyfraith yn Llundain.
Bu'n gwasanaethu ym Myddin Brenin Lloegr ond roedd ganddo barch at ei bobol ei hun ac roedd y beirdd wrth eu bodd â'r croeso yn Sycharth, gan gynnwys Iolo Goch a oedd yn ysgrifennu yn y 1380au.
Newidiodd cwrs bywyd Owain ar droad y 15fed ganrif.
Yn 1399 roedd Rhisiart II wedi ei ddiorseddu a daeth Harri'r IV yn ei le.
Ym mlynyddoedd cyntaf ei deyrnasiad roedd Harri'r IV yn cael trafferth yn sefydlu ei awdurdod ac roedd nifer o deuluoedd blaenllaw yn ei erbyn.
Roedd gan nifer o'r uchelwyr Cymreig gysylltiad agos â Rhisiart II.
Mae'n ymddangos mai achos gwrthryfel Glyndwr oedd amharodrwydd y Brenin i fod yn deg mewn dadl rhwng Owain a'i gymydog, Reginald Grey o arglwyddiaeth Rhuthun.
Dadl oedd hon am ddarn o dir ac yn ei ddicter casglodd Owain fyddin ac ymosod ar dref Rhuthun gan losgi'r adeiladau i'r llawr.
Ymosod
Ar Fedi 16 1400 cyhoeddodd criw o gefnogwyr yng Nglyndyfrdwy taw Owain oedd Tywysog Cymru.
Fe ymosodon nhw ar eiddo Seisnig yn y gogledd-ddwyrain cyn cilio i'r mynyddoedd.
Ni ddigwyddodd dim wedyn hyd nes y llwyddodd ei gynghreiriaid, y Tuduriaid o Ynys Môn, i ddal castell Conwy yn ystod Pasg 1401.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach gorchfygodd Owain lu ar Bumlumon ac roedd cefnogaeth iddo yn y rhan fwya o'r wlad.
Arweiniodd y Brenin sawl ymgyrch yn ei erbyn ond ni fu ei ymdrechion yn llwyddiannus.
Yn llawn rhwystredigaeth pasiodd y Senedd gôd penydiol a oedd yn atal y Cymry gwrthryfelgar rhag dod ynghyd, cario arfau, cael swyddi a byw mewn trefi caerog.
Yn 1404 cipiodd Owain gestyll Aberystwyth a Harlech. Arwyddodd gytundeb â'r Ffrancwyr a chynnal Senedd ym Machynlleth.
Mae'n bosib iddo gael ei goroni'n Dywysog Cymru ym Machynlleth o flaen cynrychiolwyr o Ffrainc, Yr Alban a Castile.
Yn 1405 cafodd help Ffrainc ac erbyn hyn roedd y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r cestyll brenhinol, yn cydnabod awdurdod Owain.
Llythyr Pennal
Cyrhaeddodd ei rym ei uchafbwynt yn 1405 ond roedd yn flwyddyn o fethiannau hefyd.
Collwyd brwydrau yng Nghastell Grosmont ac ym Mhwll Melyn ger Brynbuga a thanseiliodd hynny ei rym yn y de-ddwyrain.
Erbyn 1406 ei obaith mwyaf oedd y deuai mwy o help o Ffrainc ac ysgrifennodd at y brenin yno yn dweud y byddai Cymru'n deyrngar i'r Pab yn Avignon ac nid i'r Pab yn Rhufain.
Roedd y llythyr, a gafodd ei ysgrifennu ym Mhennal ger Machynlleth, yn gofyn am gydnabod archesgobaeth Tyddewi gydag awdurdod dros esgobion eraill Cymru, yr hawl i eglwysi Cymru gadw eu harian a sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru.
Ond ni ymatebodd y Ffrancwyr. Yn y cyfamser, roedd mab Harri'r IV yn arweinydd cryf ac yn 1408 llwyddodd i adennill Castell Aberystwyth a Chastell Harlech yn 1409.
Erbyn 1413 roed y gwrthryfel wedi methu. Doedd dim golwg o Glyndŵr ac
ni chafodd ei fradychu gan neb.
Does dim sicrwydd pryd na lle y bu farw ond mae'n bosib iddo farw tua 1416 yng nghartref ei ferch Alys yn Llain-gain, Sir Henffordd. Does neb yn gwybod lle cafodd ei gladdu.
A ddylai Medi 16, Diwrnod Owain Glyndŵr, fod yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol yng Nghymru? Beth yw eich barn chi? Anfonwch eich sylwadau at Newyddion BBC Cymru'r Byd drwy lenwi'r ffurflen ar y dde uchod.