BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 26 Ebrill, 2004, 06:52 GMT 07:52 UK
'Seren' Islam yng Nghaerdydd
Mwslim yn gweddo
'Mae Mwslemiaid yn gweld y Gorllewin cyfoethog ar y teledu'n ddyddiol'

Mi fydd clerig sy'n cael ei alw yn "seren roc y genhedlaeth newydd o Fwslemiaid" yng Nghaerdydd ddydd Llun i sn am Islam 'gymhedrol'.

Mae Hamza Yusuf ar daith dair wythnos o amgylch Prydain.

Mi fydd yn siarad am gyflwr Islam a'r rhyfel yn erbyn terfysgaeth, ac mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn gwrando arno yng Nghastell Caerdydd.

Ysgolhaig Americanaidd yw Mr Yusuf ac ato fo yr aeth arlywydd y wlad honno, George W Bush, i gael cyngor wedi ymosodiadau Medi 11.

Ac mi wnaeth, hefyd, annerch Tŷ'r Arglwyddi, hefyd, yn 2001.

Mae Mr Yusuf, 45, yn credu fod Islam mewn "llanast" ac mi fydd yn dadlau bod eithafiaeth Mwslemaidd yn deillio o anghydraddoldeb a thlodi.

Mae o wedi galw ar ei gyd Fwslemiaid i ddychwelyd i'r "wir ffydd" heb y trais, anoddefgarwch a chasineb.

Mae [Mwslmiaid] yn gweld eu hadnoddau yn cael eu defnyddio ar gyfer hyrwyddo ffordd o fyw'r Gorllewin
Hamza Yusuf

"Yr hyn sy'n wahanol yw bod pobol y Trydydd Byd yn gweld y Gorllewin cyfoethog ar y teledu'n ddyddiol," meddai.

"Yr hyn maen nhw'n weld ydy hyd yn oed Gorllewinwyr 'tlawd' yn byw mewn amgylchiadau allen nhw ond breuddwydio amdanyn nhw.

"Ac maen nhw'n gweld eu hadnoddau, olew er enghraifft, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyrwyddo ffordd o fyw'r Gorllewin - ond dydyn nhw ddim yn gweld y manteision yn dod yn l iddyn nhw."

Cafodd Hamza Yusuf ei eni yn Mark Hanson, yn fab i ddau o academyddion yn America.

Ond trodd at Islam pan yn 17 oed a hynny wedi damwain car ddifrifol.

Er ei fod yn feirniadol iawn o'r Gorllewin, mae o hefyd wedi galw ar Fwslemiaid i gydnabod beth sy'n dda yn y gymdeithas Orllewinol.




HEFYD:
Clerigwr wedi 'ysbrydoli' bomwyr
02 Mai 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^