Roedd Keith Allday yn aelod o'r bad achub lleol
|
Mae angladd Keith Allday, harbwrfeistr Y Bermo, yn cael ei gynnal ddydd Gwener.
Roedd torfeydd ar hyd y strydoedd oedd yn arwain at Eglwys Sant Ioan, Y Bermo.
Bu farw'r tad i bump yr wythnos ddiwetha tra oedd yn gosod angorau yn harbwr Y Bermo ar Ebrill 5.
Mae corff Alan Massey, y dirprwy harbwrfeistr 37-oed, yn dal ar goll.
Cafwyd hyd i gorff Mr Allday, 54 oed, ar draeth Y Friog 24 awr wedi iddo gael ei weld ddiwethaf.
Roedd y ddau'n aelodau o griw bad achub Y Bermo ac yn forwyr profiadol.
Mae ymchwilwyr damweiniau yr Adran Drafnidiaeth wedi archwilio'r cwch 15-troedfedd o hyd.
Mae corff Alan Massey yn dal ar goll
|
Ac mae Cyngor Gwynedd yn ymchwilio i achos yr hyn ddigwyddodd.
Cafodd cwest i farwolaeth Mr Allday ei agor a'i ohirio.
Agorwyd cronfa er mwyn helpu teuluoedd y ddau fu farw ac mae agoriad swyddogol pencadlys Sefydliad y Bad Achub wedi ei ohirio.
Y bwriad yn wreiddiol oedd agor y pencadlys gwerth £1m ar Ebrill 20.
Agorwyd cyfrif ym manc Barclays yn Y Bermo i dderbyn rhoddion i'r teuluoedd; rhif y cyfrif yw 00528331 a rhif cangen y banc yw 20-35-47.