BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 4 Medi, 2004, 09:55 GMT 10:55 UK
Agor Gardd Owain Glyndwr
Owain Glyndŵr
Mae copi o lythyr Owain Glyndŵr i'r Ffrancwyr ym Mhennal

Cafodd gardd arbennig ei hagor ddydd Sadwrn er cof am Owain Glyndŵr.

Ym Mhennal, Meirionnydd, mae'r ardd - yn y fan y lluniwyd Llythyr Pennal gan Owain Glyndŵr yn gofyn am help y Ffrancwyr i drechu'r Saeson yn ystod y gwrthryfel.

Talwyd am yr ardd gan Gyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri ac arian Amcan Un o Ewrop.

Yr awdur Jan Morris agorodd yr ardd, ac yna cafodd yr ardd ei chysegru gan yr Esgob Anthony o Fangor.

Lluniwyd yr ardd 35,000 ar ffurf gardd berlysiau ganoloesol fel a fyddai gan fynachod y cyfnod.

Yn cymryd rhan yn y seremoni agoriadol roedd John Ogwen, Maureen Rhys a Hogia'r Berfeddwlad.

Yn yr ardd mae'r cerflun pres cyntaf a wnaed o Owain Glyndŵr, a hwnnw wedi ei lunio gan Dave Haynes o Fethesda.

Talwyd am yr ardd gan apl gyhoeddus a hynny dros bedair blynedd.

'Trysor'

Mae yna hefyd gyfres o lechfeini a dalwyd gydag arian gan Eglwys Pennal.

Maen nhw'n darlunio Oes Aur y Tywysogion, Owain Lawgoch, cefnogwyr clerigol Glyndŵr yn 1406 a Marged Glyndŵr a'i meibion a'i merched.

Dywed cyn brif weithredwr Twristiaeth y Canolbarth, David Peate, fod "Pennal yn ganolbwynt i unrhyw un sydd diddordeb yn hanes Cymru".

Yn yr eglwys mae yna gopi o Lythyr Pennal, gan bod y gwreiddiol yn Archifau Cenedlaethol Ffrainc ym Mharis.

Disgrifiwyd y llythyr gan Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan fel "y trysor hanesyddol Cymreig hynotaf yn y byd".

Hefyd ym Mhennal mae murlun Senedd 1406 gan Aneurin Jones a phen cerfiedig Owain Glyndŵr gan Doug Nichols.

Mae agor yr ardd yn sicrhau lle Pennal fel un o'r mannau pwysicaf i gofio gwrhydri Glyndŵr a'i luoedd yn y 15fed ganrif.




HEFYD:
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04  |  Newyddion
Gwyl i gofio Owain Glyndwr
08 Mai 04  |  Newyddion
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04  |  Newyddion
Aber i gael Sgwr Glyndwr
05 Ion 04  |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^