BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 31 Awst, 2004, 19:22 GMT 20:22 UK
Mudiad iaith yn ymuno â ffrae
Somerfield
Mae'r bobol leol yn anhapus nad oes yna arwyddion dwyieithog yn y siopau

Mae trefnydd mudiad hawliau iaith wedi ymuno â ffrae sy'n honni bod gweithwraig mewn archfarchnad wedi cael gorchymyn i beidio â siarad Cymraeg.

Cadarnhaodd Eleri Carrog, trefnydd cenedlaethol Cefn, ei bod am 'sgwennu at y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â'r mater.

Honnodd gwraig oedd yn gweithio i Somerfield yn y Bala fod rheolwr rhanbarthol wedi dweud wrthi am beidio â siarad Cymraeg am ei bod yn "iaith wirion" ac nad oedd i'w siarad "o flaen y cwsmeriaid gan nad ydy pobol yn ei deall".

"Rydyn yn gweld bod ymddygiad honedig y rheolwr yn Somerfield y Bala yn hollol gyfarwydd o ran arwyddocad," dywedodd Ms Carrog

Yn y llythr dywedodd ei bod yn "pwyntio allan i'r Comisiwn Cydraddoldeb ei fod (yr ymddygiad honedig) yn anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb Hil."

Dros ŵyl y banc cafodd protest ei chynnal ar do ac oddi mewn i'r siop Somerfield yn y Bala.

Protestiodd 35 o aelodau a chefnogwyr Cymuned yno ddydd Llun fel rhan o'r ddadl yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.

Mae Cymuned wedi galw am ymddiheuriad cyhoeddus gan y cwmni ac maen nhw am weld Somerfield yn creu polisi dwyieithog drwy Gymru.

Hefyd maen nhw am i'r cwmni roi cyfle i staff i ddysgu Cymraeg.

Cyfarfod

Dywedodd Sam Jones, y rheolwr oedd ar ddyletswydd yn y siop ddydd Llun nad oedd y brotest yn ei boeni "cyn belled â'i fod yn heddychlon".

Wrth sôn am yr honiad fod aelod o staff wedi cael gorchymyn i beidio â siarad Cymraeg dywedodd nad oedd yn gallu "cadarnhau na gwadu beth a ddywedwyd yn honedig ond nad oes teimlad gwrth Gymreig yma o gwbwl, mae pobol yn siarad ba bynnag iaith sydd ei angen i ddelio â'r cwsmeriaid."

Mae Somerfield wrthi ar hyn o bryd yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod beth ddigwyddodd.

Fe fydd dirprwyaeth o ardal y Bala yn cyfarfod uwch reolwyr cwmni Somerfield ddydd Iau i drafod y sefyllfa.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^