BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 12 Ebrill, 2004, 10:39 GMT 11:39 UK
Ymweld Phier Bangor
Pier Bangor
Mae Pier Bangor yn denu pobol leol ac ymwelwyr

A hithau'n wyliau'r Pasg mae llawer o bobol yn chwilio am leoedd i fynd am dro.

Un lle posib yw'r pier ac mae sawl un ohonyn nhw yng Nghymru.

Ond beth yw sefyllfa'r pier erbyn hyn? A yw'n parhau'n boblogaidd neu a yw ei oes wedi dod i ben?

Aeth Newyddion BBC Cymru'r Byd i ymweld Phier Bangor.

Mae Pier Bangor tua 1500 troedfedd o hyd ac yn ymestyn o arfordir Bangor i gyfeiriad Ynys Mn.

Cyngor Dinas Bangor sy'n berchen arno ac mae'n denu pobol leol ac ymwelwyr.

Mae yna broblem gyda'i gynnal oherwydd y tywydd, y llanw a'r gwynt aruthrol sydd yno ac mae hyn yn dylanwadu ar yr amserlen
Gwyn Hughes, Clerc Cyngor Dinas Bangor
Cafodd y pier gwreiddiol ei agor yn 1896 a'i gau yn 1971 am resymau diogelwch.

Yna cafodd y pier presennol ei agor yn 1988 ar l cael ei adnewyddu ar gost o 3m.

Cafodd yr arian ei godi o ganlyniad i grantiau a'r prif ffynonellau oedd Awdurdod Datblygu Cymru, Y Swyddfa Gymreig, Cyngor Hanesyddol Cymru a'r Gronfa Goffa Etifeddiaeth Genedlaethol.

Yn wahanol i sawl pier arall does dim arcds yma bellach.

Ymwelwyr

Roedd arcd ar y pier hyd ryw bum mlynedd yn l ond erbyn hyn caffi sydd yma a siopau bychan.

"Mae'r pier yn nodwedd arbennig i Fangor a Chymru gyda miloedd o bobol yn mynd arno bobol blwyddyn," meddai Gwyn Hughes, Clerc Cyngor Dinas Bangor.

"Nid bwriad y cyngor yw cael nodwedd fel pier Blackpool neu'r Rhyl, roedden ni eisiau rhywbeth a fyddai'n apelio at ymwelwyr sydd yn gwerthfawrogi cerdded a mwynhau golygfeydd."

Er hyn dywed y byddai'n hoffi gweld mwy o ymwelwyr yn dod yma a fyddai'n gymorth i dalu am y gwaith cynnal a chadw.

Mae gweithwyr yn gweithio'n rheolaidd yma, yn paentio ac adnewyddu'r pier.

Yna bob tua 15 mlynedd bydd gwaith sylweddol yn cael ei wneud i drin y strwythur a bydd hynny yn digwydd eleni.

"Mae yna broblem gyda'i gynnal oherwydd y tywydd, y llanw a'r gwynt aruthrol sydd yno ac mae hyn yn dylanwadu ar yr amserlen," meddai Mr Hughes.

Arian

Mae'r gwaith cynnal a chadw, meddai, yn ddrud ac mae'r cyngor yn dibynnu ar yr arian sy'n cael ei roi gan y cyhoedd mewn blwch wrth y fynedfa.

Oherwydd y gost fyddai ynghlwm wrth hynny, ni all y cyngor gyflogi gweithwyr i fod wrth y fynedfa yn casglu arian drwy'r amser ac felly dim ond yng nghyfnod prysur yr haf y bydd rhywun yn casglu arian.

Mae'r cyngor felly yn dibynnu ar onestrwydd yr ymwelwyr.

Alan a Wendy Parsons
Mae Alan a Wendy Parsons yn mwynhau gweithio ar y pier
Hefyd maen nhw'n derbyn rhent gan y rhai sy'n rhedeg y siopau bychan a'r caffi.

Mae chwe chiosg yma i gyd sy'n gartref i ganolfan wybodaeth, siop anrhegion, melysion a siop hufen i.

Un o'r rhai sy'n cadw siop yno yw Alan a Wendy Parsons ac maen nhw yn gwerthu anrhegion o goed.

Mae'r ddau yn mwynhau gweithio yno gan fod y pier yn denu llawer o deuluoedd.

"Mae yna gymuned braf yma ac awyrgylch arbennig ac mae pawb yn ceisio helpu ei gilydd," meddai Mr Parsons.

"Mae'r pier yn un o'r gorau o'i fath yn y wlad ac mae pobol wrth eu boddau yn dod yma."

Dyfodol

Ond dywedodd Mr Parsons y byddai'n hoffi gweld y pier yn cael ei hyrwyddo'n well.

"Mae angen dweud wrth bobol lle mae'r pier, mae'r arwyddion ar hyn o bryd yn fach a thrwy ddamwain y mae nifer yn dod o hyd iddo."

Ond mae clerc y ddinas yn fodlon 'r nifer o arwyddion sydd wedi eu gosod, gan gynnwys un, meddai, ar yr A55.

Byddai arwyddion mwy, meddai, yn anharddu'r amgylchedd.

Dywedodd Mr Parsons hefyd y byddai'n hoffi gweld y pier yn cael ei ddatblygu ymhellach.

"Fe fyddwn i'n hoffi gweld y jeti yn cael ei ddefnyddio eto er mwyn i gychod allu glanio yma fel bod modd cael tripiau i Fiwmares a Phorthaethwy, byddai hynny yn fuddiol iawn."

Er yn cydnabod fod hynny yn syniad da nid yw clerc cyngor y ddinas yn credu y byddai'n ymarferol.

"Mae llif Afon Menai yn ofnadwy o gryf a pheryglus a fyddai'r cyngor ddim eisiau cymryd cyfrifoldeb pe bai aelodau o'r cyhoedd yn mynd oddi yma ar gwch.

"Mae'n syniad da ond byddai yn rhy ddrud, yn rhy beryglus ac nid yw'n ymarferol," meddai.

Nid oes unrhyw ddatblygiadau ar y gweill yn y dyfodol, meddai, ond dywedodd ei fod yn credu bod dyfodol y pier ym Mangor yn ddiogel.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^