BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 30 Awst, 2004, 15:17 GMT 16:17 UK
Ail-greu gwarchae Glyndwr
Straeon Glyndŵr
Arfbais Glyndŵr

Roedd y brwydro yn parhau mewn pentref yn y de ddydd Llun fel rhan o'r dathliadau i gofio 600 mlwyddiant gwrthryfel Owain Glyndŵr.

Dros y penwythnos mae actorion wedi bod yn ail-greu gwarchae Owain Glyndŵr ar Gastell Coety ger Pen-y-bont.

Roedd y gwarchae 600 mlynedd yn l ac yn rhan o wrthryfel Owain Glyndŵr.

Ar l blwyddyn o frwydro lluoedd y Brenin Harri IV oedd yn fuddugol yng nghastell Coety.

Roedd y frwydr yn arwyddocaol, meddai Sin Ellis o bwyllgor pentref Coety.

"Mae'n achlysur arbennig ac ry'n ni fel cymdeithas y pentref wedi bod yn gweithio'n galed dros yr wythnosau diwethaf i godi ymwybyddiaeth am yr hyn a ddigwyddodd a hanes y pentref, hanes Glyndŵr a hanes Cymru.

"Dwi'n credu taw hwn oedd y gwarchae hiraf, dros flwyddyn. Bu'n rhaid i'r brenin o Loegr anfon ei filwyr i Goety yn y diwedd."

Canmolodd Sin Ifan o Lysgenhadaeth Glyndŵr, sy'n trefnu digwyddiadau i goffu Gwrthryfel Glyndwr, yr hyn sy wedi digwydd yng Nghoety eleni.

Newid hanes

"Mae'r ffordd y mae'r gweithgareddau hyn wedi cael ei threfnu yn esiampl i Gymru gyfan," meddai.

Pe bai wedi cymryd y castell, byddai hanes Cymru wedi newid yn llwyr...
John Elfed Jones, pwyllgor trefnu Coety

"Yn sicr, byddai unrhyw berson sydd wedi bod yma yn gallu gweld sut mae pobol yn gallu mwynhau eu hunain a dysgu am hanes eu cenedl yr un pryd.

"Mae hyn yn gwneud mwy i ddysgu hanes y genedl Gymreig a hanes Owain Glyndŵr a'i ryfel mawr am annibyniaeth i bobol y cymoedd nac unrhyw lyfr hanes academaidd."

"Yn anffodus, wnaeth Glyndwr ddim cymryd Castell Coety," meddai John Elfed Jones o bwyllgor y pentref.

"Pe bai wedi gwneud hynny, yn fy marn i fe fyddai hanes Cymru wedi newid yn llwyr oherwydd pwy bynnag sy'n llywodraethu dros Forgannwg sy'n llywodraethu dros Gymru gyfan.

"Felly mae'n bwysig yn hynny o beth i ni gofio'r hyn ddigwyddodd.

"Mae wedi bod yn achlysur hyfryd. Fe wnaethon ni newid hanes heddiw oherwydd roedd buddugoliaeth i Owain Glyndŵr ac roedd hynny'n dda i'w weld."




HEFYD:
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04  |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04  |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03  |  Newyddion
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^