Roedd Keith Allday yn bwriadu ymddeol
|
Mae corff wedi ei ddarganfod ar draeth ger Y Bermo gan dimau achub sydd yn chwilio am ddau ddyn sydd ar goll yn y môr.
Diflannodd Keith Allday, harbwrfeistr 54 oed, ac Alan Massey, ei gynorthwy-ydd 37 oed, amser cinio dydd Llun wedi iddyn nhw fod yn gosod angorau yn harbwr Y Bermo.
Roedd y ddau yn aelodau o dîm bad achub y dref.
Mae timau achub wedi bod yn chwilio am y ddau drwy'r nos ar ôl i'w cwch, oedd wedi troi wyneb i waered, gael ei ddarganfod yn arnofio ger yr harbwr.
Ond cafodd yr ymdrech ei lleihau amser cinio dydd Mawrth a dywedwyd wrth deuluoedd y ddau i ddisgwyl y gwaethaf.
Roedd y ddau yn ffigyrau canolog yn y gymuned ac yn forwyr profiadol.
Dywedodd Rob Haworth, cadeirydd cangen leol Sefydliad Brenhinol y Bad Achub, wrth BBC Radio Wales ei fod yn deall mai corff Keith Allday a gafodd ei ddarganfod ychydig cyn 1500BST ddydd Mawrth a bod ei deulu wedi eu hysbysu.
"Mae'n beth ofnadwy i deulu ifanc Keith i wybod fod eu tad wedi marw," meddai, "nawr mae ganddom ni'r broblem o deulu Alan ddim yn gwybod lle mae o ar hyn o bryd."
"Mae criw'r bad achub yn Y Bermo i gyd wedi bod allan yn ystod y ddau ddiwrnod diwethaf...mae'r teuluoedd wedi bod yng ngorsaf y bad achub ac wedi bod mewn cysylltiad â'r criw ar hyd yr amser."
Talu teyrnged
Dywedodd y byddan nhw'n parhau i chwilio am Mr Massey.
Wrth dalu teyrnged i Mr Allday dywedodd: "Fe fydda i'n cofio Keith fel llywiwr bad achub gwych a dyn ifanc a oedd yn rhedeg ei gwch gyda gofal arbennig.
"Roedd yn ŵr bonheddig a oedd yn edrych ar ôl ei griw mewn ffordd wych.
"Nid yn unig roedd yn gydweithiwr a llywiwr ond yn ffrind mawr i ni i gyd."
Mae cyfeillion a chydweithwyr y ddau wedi bod yn chwilio yn ddyfal amdanyn nhw drwy nos Lun.
Un a fu'n chwilio yw'r Cynghorydd Aeron Williams.
"Mae'r newyddion yma wedi dychryn bobol leol ac mae hynny'n dangos yn y nifer o bobl oedd allan yn chwilio am y ddau," meddai.
'Sioc'
Dywedodd fod y ddau yn "bobol adnabyddus yn lleol ac yn hoffus iawn."
Dywedodd y Cynghorydd Trevor Roberts o'r Bermo fod y dref gyfan yn ceisio dod i delerau â'r drasiedi.
"Mae pobol yn sefyll o gwmpas eisiau gwneud rhywbeth. Mae'r dref mewn sioc llwyr" meddai.
Roedd Mr Allday yn llywiwr ar y bad achub am 12 mlynedd ac roedd wedi bwriadu ymddeol y flwyddyn nesaf.
Mae ei deulu, ei wraig Jill, a'r plant, Emma, Sara, Sean, Kassie a Katie, a'r wyres Molly sy'n ddwy, yn cael eu cysuro gan deulu a chyfeillion.
Mae Mr Massey wedi bod yn yrrwr tacsi rhan amser ac mae ei fam a'i frawd yn byw yn ardal Y Bermo.
Yn y cyfamser dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd yn cynnal ei ymchwiliad ei hun i ddiflaniad y ddau weithiwr harbwr.
Dywedodd y cyngor y byddai'r gwaith yr oedd y dynion yn ei wneud yn ran arferol o'u gwaith gyda gwasanaeth morwrol y cyngor.