Mae badau achub wedi bod yn chwilio am aelodau o'r tîm
|
Yn ôl y gwasanaethau achub mae'r gobaith o ddod o hyd i'r ddau ddyn sydd wedi bod ar goll oddi ar arfordir Y Bermo yn lleihau.
Mae harbwr feistr Y Bermo, Keith Allday, 54 oed, a'i gynorthwy-ydd 37 oed, Alan Massey, wedi bod ar goll ers dros 24 awr bellach.
Yn ôl Andy Clift o Sefydliad y Bad Achub mae perthnasau'r ddau yn cael gwybod nad oes disgwyl dod o hyd iddynt yn fyw.
"Mae darganfod y ddau'n fyw yn llai tebygol ond rydyn ni'n dal i fyw mewn gobaith.
"Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deuluoedd a ffrindiau'r ddau," meddai.
Daeth adroddiadau bod y ddau, sy'n aelodau o'r bad achub lleol, ar goll ers prynhawn dydd Llun.
Cafodd y ddau eu gweld ddiwethaf yn gosod angorau yn yr harbwr.
Mae teuluoedd a chyfeillion y ddau wedi eu disgrifio fel morwyr profiadol, maen nhw wedi bod yn aros yng nghanolfan y bad achub yn disgwyl unrhyw wybodaeth.
 |
Fyddai'r ddau wedi bod allan yn chwilio pe bae rhywun arall ar goll, y peth lleiaf allwn ni wneud ydi'r un peth
|
Mae Euron Williams yn gynghorydd lleol ac yn un a fu allan yn chwilio dros nos am y ddau.
"Fues i'n chwilio'r ardal o bendraw'r prom am Dal-y-bont tan tua tri o'r gloch y bore. Mae 'na lot o gerrig yno ond roedd y llanw'n uchel.
"Mae'r newyddion yma wedi dychryn bobol leol ac mae hynny'n dangos yn y nifer o bobol oedd allan yn chwilio am y ddau.
"Roedd pobol o Ddinas Mawddwy a Fairborne wedi dod i gynorthwyo.
"Mae'r ddau yn bobol adnabyddus yn lleol ac yn hoffus iawn.
"Fyddai'r ddau wedi bod allan yn chwilio pe bae rhywun arall ar goll, y peth lleiaf allwn ni wneud ydi'r un peth."
Hofrenyddion
Dechreuwyd boeni am ddiogelwch y ddau wedi i'w cwch 15 troedfedd gael ei ddarganfod ben i waered yn yr aber.
Mae pum bad achub wedi bod yn rhan o'r tîm chwilio, dwy o Bermo, ac un o Gricieth, Aberdyfi a Phwllheli.
Mae gwirfoddolwyr yn cadw golwg hefyd
|
Nos Lun bu degau o bobol lleol yn cynorthwyo ac wrth i'r tywydd waethygu bu'n rhaid gorffen chwilio, dechreuwyd eto ar doriad gwawr.
Yn ôl Andy Clift mae'r gwaith wedi bod yn anodd i'r timau achub gan eu bod nhw'n adnabod y ddau'n dda.
"Mae'n anodd iawn chwilio am ddau gyfaill yr ydach chi wedi eu hadnabod am flynyddoedd," meddai.
Bu Mr Allday yn llywiwr ar y fad achub am 12 mlynedd ac roedd wedi bwriadu ymddeol y flwyddyn nesaf.
Mae ei deulu, ei wraig Jill, a'r plant, Emma, Sara, Sean, Kassie a Katie, a'r wyres Molly sy'n ddwy, yn cael eu cysuro gan deulu a chyfeillion.
Bu Mr Massey yn yrrwr tacsi rhan amser ac mae ei fam a'i frawd yn byw yn ardal Y Bermo.