Mae badau achub wedi bod yn chwilio drwy'r nos
|
Drwy'r nos mae timau achub wedi bod yn chwilio am harbwr feistr Y Bermo a'i gynorthwy-ydd.
Mae Keith Allday, yr harbwr feistr a llywiwr bad achub Y Bermo, a Alan Massey, aelod arall o'r bad achub, wedi bod ar goll yn y môr ers prynhawn ddydd Llun.
Hyd yma y cyfan sydd wedi ei ddarganfod ydi'u cwch sydd wedi troi wyneb i waered yn y môr.
Cafodd y ddau eu gweld yn gosod angorau oedd ar geg yr harbwr yn ystod y dydd a chafwyd hyd i'r gwch tua 1500 BST.
Bu badau achub o'r Bermo, Aberdyfi, Cricieth a Phwllheli yn chwilio'r môr am y ddau yn ogystal â hofrennydd yr awyrlu o'r Fali, hofrennydd yr heddlu a'r gwasanaeth tân.
Mae'r gwasanaethau achub yn chwilio ar hyd yr arfordir am 30 cilometr a thua pum cilometr allan i'r môr.
Gwynt
Mae degau o bobol hefyd wedi bod yn cerdded ar hyd y traeth yn rhan o'r chwilio dros nos ac mae nifer yn parhau i chwilio bore Mawrth.
Mae hi'n wyntog a'r tonnau'n eithaf garw ddydd Mawrth fel ag yr oedd hi ddydd Llun.
 |
Roedd yr amgylchiadau ddydd Llun yn debyg i'r bore ma, gwynt yn chwythu a'r môr yn uchel ac mae'r dŵr yn reit oer
|
Mae Euron Williams yn gynghorydd lleol ac yn un a fu allan yn chwilio dros nos.
"Fues i'n chwilio'r ardal o bendraw'r prom am Dal-y-bont tan tua tri o'r gloch y bore. Mae 'na lot o gerrig yno ond roedd y llanw'n uchel.
"Mae'r newyddion yma wedi dychryn bobol leol ac mae hynny'n dangos yn y cymaint o bobol oedd allan yn chwilio am y ddau.
"Roedd pobol o Ddinas Mawddwy a Fairborne wedi dod i gynorthwyo.
Deifwyr
"Mae'r ddau yn bobol adnabyddus yn lleol ac yn hoffus iawn.
"Roedd yr amgylchiadau ddydd Llun yn debyg i'r bore ma, gwynt yn chwythu a'r môr yn uchel ac mae'r dŵr yn reit oer."
Bu tîm o ddeifwyr arbenigol yn chwilio'r môr yn ystod y nos.
Roedd pryder bod y ddau ddyn wedi cael eu dal yn yr angorau.
Credir bod yr harbwr feistr a'i gynorthwy-ydd wedi methu cwblhau'r gwaith yr oedden nhw wedi cychwyn ei wneud ddydd Llun.