20 oed oedd Andy 'Curly' Jones yn ystod Rhyfel y Falkland
|
Mae'r rhai oroesodd fomio llong y Syr Galahad yn Rhyfel y Falkland wedi dod at ei gilydd ym Mae Caerdydd ar gyfer aduniad.
Bu i 50 o filwyr, llawer ohonyn nhw'n aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig, gael eu lladd ar Fehefin 8 1982 pan ymosododd awyrennau'r Ariannin ar y llongau cludo milwyr Syr Galahad a Syr Tristram.
Ddydd Sadwrn ymwelodd rhai a oroesodd y drychineb â llong Syr Galahad arall gafodd ei henwi ar ôl yr un a suddwyd ger Bluff Cove.
Cafodd y cyn-filwyr wahoddiad i ymweld â'r llong ac wedyn cafwyd gwasanaeth mewn eglwys a chinio.
Y Syr Galahad newydd oedd y llong gyntaf i fynd â chymorth dyngarol i borthladd Um Qasr yn ystod rhyfel diwethaf Irac.
"Mae hi'n edrych fel yr hen long; wnes i ddim credu y byddwn i'n teimlo fel hyn," meddai Maldwyn Jones o Fangor â deigryn yn ei lygaid.
Maldwyn Jones: Colli llawer o ffrindiau
|
Roedd yn 22 oed yn ystod Rhyfel y Falkland a fo oedd medic ei blatŵn.
"Roeddwn i yn y prif howld pan gafodd llawer eu lladd.
"Roeddwn i'n adnabod llawer fu farw. Mi golles i bedwar neu bump o ffrindiau da."
Mae Mr Jones rwan yn blisman yn y gogledd.
"Mae gen i ffrindiau ym Mangor na allai wynebu dod yma. Mae yna un wnaiff ond siarad wrth gyd gyn-filwyr am beth ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw.
"Pan rydych chi'n treulio cymaint o amser efo'ch gilydd yn y fyddin, mi rydych chi'n gwneud llawer o ffrindiau agos - mi allan nhw fod yn agosach i chi na'ch teulu.
"Mae beth ddigwyddodd wedi fy newid fel person."
Roedd Andy 'Curly' Jones, yn wreiddiol o Gaerfyrddin ond rwan yn byw yn Aberhonddu, yn 19 oed ar y pryd.
"Dwi ac 20 arall yn ddyledus i forwr anhysbys am achub ein bywydau," meddai.
Mae'r Syr Galahad ar ymweliad â Chaerdydd
|
"Dwi'n dal ddim yn gwybod pwy arweiniodd ni i ddiogelwch drwy'r mwg, y tân a'r ffrwydron.
"Rwyn credu fod gan beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw le, nid yn unig yng nghalonnau'r cyn-filwyr, ond hefyd yng nghalon Cymru fel cenedl gan iddi alaru ac uniaethu â'r lluniau yna 22 mlynedd yn ôl.
"Roedd yna sawl gweithred arwrol y diwrnod hwnnw na chafodd eu cofnodi gyda buddugoliaethau mewn pwyll, trefn a phroffesiynolrwydd - y medics a'r meddygon yn y Falklands ac adref a achubodd fywydau sawl un.
"Ac wrth gwrs y fuddugoliaeth fechan fod cymaint ohonon ni wedi gallu dod yma heddiw.
"Erbyn diwedd y dydd rwyn teimlo y byddai'n gallu cau pennod yn fy mywyd ac edrych ymlaen i atgofion hapusach."