Bu i Harold Lowe achub sawl bywyd
|
Gwerthwyd bwydlen y pryd cyntaf i gael ei weini ar y Titanic am £51,000 - y pris uchaf erioed am eiddo'n ymwneud â'r llong suddodd yn 1913.
Bwydlen yn eiddo i swyddog ar y llong, Harold Lowe o ogledd Cymru, oedd hon dyn sy'n cael ei gyfri yn un o arwyr y drychineb.
Gwerthwyd y fwydlen mewn arwerthiant yn Southampton ddydd Gwener - 92 mlynedd i'r dydd pan weiniwyd y pryd.
Collodd 1,500 eu bywydau pan suddodd y llong ar ôl taro mynydd rhew ym Môr Iwerydd a hynny ar ei thaith gyntaf.
Roedd y pumed swyddog Harold Lowe o Eglwys Rhos, Conwy, yn 29 oed ar y pryd, a bu iddo aros yn bwyllog tra'r oedd bron pawb arall wedi cynhyrfu.
Bu i Lowe, gafodd ei bortreadu gan Ioan Gruffudd yn y ffilm Titanic, danio ei rifolfer i'r awyr i gael trefn i sicrhau bod merched a phlant yn cael mynd i'r cychod cyn y dynion.
£40,000 oedd yr amcangyfrif am y fwydlen
|
Y pris uchaf dalwyd am rywbeth â chysylltiad â'r Titanic yn flaenorol oedd £37,000 a hynny am albwm lluniau.
Doedd ond disgwyl i tua £40,000 gael ei dalu am y fwydlen.
"Dim ond 50 o bobol gafodd y cinio arbennig hwn a'r rheiny'n brif swyddogion," meddai'r arwerthwr Alan Aldridge.
Casglwr o Brydain - sydd am aros yn ddienw - brynodd y fwydlen, gan drechu nifer o Americanwyr yn y stafell arwerthu ac ar y ffôn.
Cafodd y fwydlen dosbarth cyntaf ei gyrru i ddarpar wraig Lowe, Elen Whitehouse, pan arhosodd y llong yn Iwerddon ar ei ffordd i America.
Ar y gwaelod roedd Lowe wedi sgwennu: "Dyma'r pryd cyntaf erioed ar ei bwrdd."
Dyddiad y fwydlen oedd 2 Ebrill 1912, ac arni roedd consommé mirrette, eirin oen, cig oen a chig moch wedi'i fudstiwio.
Lowe oedd un o'r unig ddau swyddog i oroesi'r drychineb.
Flwyddyn wedi'r drychineb, bu i Lowe - a anwyd yn y Bermo - briodi Ellen ac mi gawson nhw ddau o blant.
Cafodd ei gladdu yn Llandrillo yn Rhos ger Llandudno.
Teulu Lowe fydd yn cael yr arian o'r gwerthiant.