BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 23 Awst, 2004, 19:07 GMT 20:07 UK
Cyflwyno dyddiadur Lloyd George
Sin Tecwyn
Newyddion BBC Cymru

Mae dyddiadur o flwyddyn ym mywyd un o wleidyddion enwocaf Cymru bellach ar gael i'r cyhoedd ei weld.

Mae David Lloyd George yn cael ei ystyried yn un o wleidyddion mwyaf blaenllaw yr 20fed ganrif.

David Lloyd George
Ysgrifennwyd y dyddiaduron pan oedd Lloyd George yn gyfreithiwr ifanc yng Nghricieth
Mi fu'n ganghellor a phrif weinidog Prydain cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dydd Llun cyflwynodd ei nai WRP George gopi o'r dyddiadur i Amgueddfa Lloyd George ym mhentref Llanystumdwy ger Cricieth.

Mi gododd o gefndir digon cyffredin i fod yn arweinydd ei wlad.

Does yna ddim amheuaeth am bwysigrwydd David Lloyd George yn hanes gwleidyddol dechrau'r ganrif diwethaf.

Er mai ym Manceinion y cafodd ei eni, roedd ei wreiddiau'n nwfn yn nhir Gwynedd.

Mae Amgueddfa Lloyd George yn ei hen gartref yn Llanystumdwy yn olrhain bron pob manylyn o fywyd y dyn cymhleth yma wnaeth ddatblygu i fod yn un o wleidyddion pwysicaf hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Mae'n gofnod pwysig iawn iawn o fywyd ei ewythr pan oedd hwnnw'n dwrnai ifanc ac yn wleidydd ifanc yn dechrau ar ei yrfa
Rhys Parri, Cyngor Gwynedd
Ond dydd Llun cafwyd ychwanegiad arall pwysig i'r casgliad.

Cyflwynodd nai Lloyd George gopi o ddyddiadur ei ewythr o'r flwyddyn 1885 i'r amgueddfa.

Ar y pryd roedd Lloyd George yn gyfreithiwr ifanc yng Nghricieth.

"Dwi'n meddwl ei fod yn hynod o ddiddorol a dwi'n gobeithio y gwnaiff hwn ddenu mwy o bobol i ddod yma er mwyn gallu troi at ryw ddyddiad arbennig i gael gweld beth oedd o'n wneud y diwrnod hwnnw," medd WRP George.

Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am yr amgueddfa.

"Mi rydan ni'n falch iawn fel cyngor bod Dr William George wedi cyfrannu'r ddogfen yma i ni," medd Rhys Parri ar ran y cyngor.

"Oherwydd mae'n gofnod pwysig iawn iawn o fywyd ei ewythr pan oedd hwnnw'n dwrnai ifanc ac yn wleidydd ifanc yn dechrau ar ei yrfa."

Mae yna bron i 10,000 o bobol yn mynd i'r amgueddfa bob blwyddyn - arwydd o'r diddordeb parhaus yn y cymeriad lliwgar yma.

"Mi wnaeth o gyflawni cymaint o bethau pan oedd o'n weinidog ac yn brif weinidog yn y llywodraeth," medd Emrys Williams o Gymdeithas Cyfeillion yr Amgueddfa.

"Mae'n bechod fel rydan ni'n mynd yn bellach o gyfnod Lloyd George fod pobol yn tueddu i anghofio a dyna beth sy'n dda am yr amgueddfa yma."

A rwan mi fydd yna gyfle i genhedlaethau i ddod i ddarllen, yng ngeiriau Lloyd George ei hun, sut roedd o'n edrych ar y byd 120 o flynyddoedd yn l.




HEFYD:
'Lloyd George sefydlodd Israel'
29 Ion 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^