BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Awst, 2004, 11:17 GMT 12:17 UK
Bragdy bach yn ailagor
Bragdy Gwynant
Mae'r bragdy yn llai na phum troedfedd sgwâr

Mae bragdy yn y canolbarth, sy'n honni ei fod y lleiaf yn y byd, wedi ailagor.

Tŷ bach oedd y bragdy yng Nghapel Bangor, ger Aberystwyth, ers talwm ac mae'n llai na phum troedfedd sgwâr.

Mae Bragdy Gwynant yn bragu cwrw i un cwsmer yn unig, sef tafarn Tynllidiart drws nesaf.

Wedi cyfnod o seibiant am ddwy flynedd mae'r bragdy wedi ailddechrau cynhyrchu cwrw.

Mae'n cymryd 14 diwrnod i gynhyrchu naw galwyn o'r cwrw, nad yw wedi cael enw eto.

Dywed Mark a Margaret Phillips, perchnogion Tynllidiart, fod rysáit cyfrinachol i'r cwrw.

"Fe symudodd cyn berchennog y dafarn oddi yma ddwy flynedd yn ôl a hyd at bythefnos yn ôl roedd y dafarn ar gau a'r bragdy hefyd," meddai Mr Phillips a symudodd yno bythefnos yn ôl.

"Roedden ni'n meddwl y byddai'n braf i fragu ein cwrw lleol ein hunain ac yn ffodus mae dyn sy'n bragu yn byw ychydig ddrysau oddi wrthom ac fe allodd helpu.

"Rydyn ni wedi profi'r cwrw ac mae angen addasu ychydig ond fe ddylai fod ar gael i gwsmeriaid ei flasu'r penwythnos hwn."

Arbrofi

Dywedodd Mrs Phillips eu bod wedi ceisio defnyddio cymaint o gynhwysion â phosib yn y cwrw.

Roedd y bragdy unwaith yn ymddangos yn y Guinness Book of Records.

"Roedd yn y llyfr ychydig flynyddoedd yn ôl fel y bragdy lleiaf yn y byd ond pan gaeodd ddwy flynedd yn ôl fe gollodd ei le, " meddai Mrs Phillips.

"Fe fyddwn ni'n gwneud cais eto yn yr wythnosau nesaf."

Dywedodd Chris Giles, sy'n byw gerllaw'r bragdy a sy'n rhedeg busnes cwrw ei hun, mai tŷ bach i ddynion oedd y bragdy ers talwm.

"Mae'n fach iawn a does dim llawer o le pan fo'r offer bragdy i gyd yno," meddai'r gŵr sydd wedi bod yn cynorthwyo'r cwrw newydd.

"Does ganddon ni ddim enw i'r cwrw eto ac mae yn ei gyfnod arbrofol.

"Fe ellir bod angen datblygu rhyw ychydig dros yr wythnosau nesaf cyn y cawn ni'r peint terfynol.

"Dwi'n defnyddio rysáit cyfrinachol ond mae bragu cwrw fel gwneud cyri da - mae angen sawl cynnig i'w gael yn berffaith."





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^