Doedd Abertawe ddim wedi cynnal gwasaneth coffa i Syr Harry Secombe
|
Cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal yn Abertawe ddydd Sadwrn ar gyfer y diddanwr Syr Harry Secombe.
Ar ôl y gwasanaeth yn Eglwys San Thomas, cafodd cofeb ei dadorchuddio.
Yn ogystal â theulu i Sy Harry roedd nifer o ffrindiau i'r diddanwr gan gynnwys Eric Sykes,
Wyn Calvin, Stan Stennett, Philip Madoc a Ruth Madoc yn bresennol yn y gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal dair blynedd wedi marwolaeth y diddanwr.
Yn Eglwys San Thomas y gwnaeth y diddanwr, y canwr a'r cyflwynydd teledu wneud ei berfformiad cyntaf fel aelod ifanc o gôr yr eglwys ac fe gafodd plac glas gan Sefydliad Treftadaeth ei dadorchuddio y tu allan i'r eglwys.
Cafodd y gofeb ei chysegru gan y Gwir Parchedig Anthony Pierce, Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Cymeriad
Dyma fydd y gofeb barhaol gyntaf iddo yn ei ddinas enedigol.
Dyma'r plac cyntaf i'w gosod yng Nghymru gan y Sefydliad Treftadaeth
|
Ar y plac roedd yn dweud "Syr Harry Secombe CBE 1921-2001. Diddanwr Goon a chanwr a wasanaethodd yma fel côr-fachgen".
Bu farw Syr Harry yn 79 oed o gancr wedi iddo ymladd salwch ers rhai blynyddoedd.
Roedd Côr Orpheus Treforys, a ymddangosodd gyda Syr Harry yn ei gyfres deledu 'Highway' yn cymryd rhan yn y gwasanaeth hefyd.
Yn dilyn y gwasanaeth mae cinio elusennol yn cael ei gynnal i gofio am un o aelodau'r Goons.
Yn ôl brawd Syr Harry, Fred, a oedd yn canu gyda'i frawd yn yr eglwys yn nwyrain Abertawe, mae'n falch iawn bod y gwasanaeth yn cael ei gynnal.
Diolchgarwch
"Roedd o'n dipyn o gymeriad," meddai wrth BBC Ar-lein.
"Roedd yn gôr-fachgen da ac fe fu'n aelod ifanc iawn ac yno am flynyddoedd tan i'w lais dorri.
"Dim ond bechgyn oedd yno ar y pryd, doedd neb wedi clywed am ferched y pryd hynny yn canu mewn côr."
Brawd Syr Harry, Fred, a'i weddw Myra ddadfeiliodd y plac
|
Yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Sadwrn roedd gweddw Syr Harry, y Foneddiges Myra Secombe.
Yn dilyn marwolaeth Syr Harry ym mis Ebrill 2001 cafodd gwasanaeth diolchgarwch ei gynnal yn Abaty Westminster yng nghwmni Tywysog Charles a sêr yn cynnwys Ronnie Corbett, Eric Sykes, Jimmy Tarbuck a Michael Parkinson yn talu teyrnged.
Ar y pryd fe benderfynwyd y byddai gwasanaeth llai yn cael ei gynnal yn Abertawe ond yn ôl David Graham, trefnydd y digwyddiad o Sefydliad Treftadaeth, fe gymrodd hi beth amser i nodi dyddiad addas.
Mae hyn hefyd yn dilyn ymgyrch ym mhapur nos weithiol Abertawe i gael cofeb barhaol i Syr Harry yn Abertawe.
,
Cafodd Syr Harry ei eni yn 1921 ac fe ddaeth yn enw cyfarwydd iawn wedi iddo ymuno gyda Spike Milligan, Peter Sellers a Michael Bentine i greu'r Goon Show.
Fe ymddangosodd mewn ffilm gerddorol o Oliver a ac fe gafodd lwyddiant gyda'i sengl If I Ruled the World, gyrhaeddodd rhif dau yn y siartiau.
Yn 1981 fe gafodd ei wneud yn farchog ac yn 1983 cychwynnodd y gwaith o gyflwyno'i gyfres deledu crefyddol 'Highway' y bu'n ei gyflwyno am dros 10 mlynedd yn ogystal â Songs of Praise.