Atyniad i ymwelwyr ym Mhatagonia ydi'r trên yma
|
Patagonia ydy'r rhanbarth o'r Ariannin sy'n cryfhau gyflymaf wedi dirwasgiad difrifol achosodd galedi dychrynllyd yno ddwy flynedd yn ôl.
Yn 2001 roedd economi'r wlad ar ei gliniau ac roedd hanner y boblogaeth, tua 20m o bobol, yn byw mewn tlodi.
Yn rhifyn yr wythnos yma o Manylu ar BBC Radio Cymru mi fydd y rhageln yn clywed sut mae'r Llywodraeth yn Buenos Aires yn rhoi cymorth i Batagonia.
Dyma ranbarth sydd wedi cael ei hesgeluso gan reolwyr Yr Ariannin yn y gorffennol.
 |
Mae'r arlywydd yn rhoi llawer o gefnogaeth i Batagonia..... ac yn gweithio llawer efo llywydd arweinydd Chebut
|
O fod yn un o wledydd mwya cyfoethoca'r byd tua canrif yn ôl mae dechrau'r 21ain ganrif wedi bod yn drychinebus i'r Ariannin.
Achosodd y cwymp economaidd, ddechreuodd yn niwedd 2001, dlodi a diwethdra enbyd.
Gwelwyd penawdau brawychus am blant yn llwgu.
"Roedd plant bach yn marw hyd yn oed ac yn bwyta unrhyw beth," meddai Norma Hughes sy'n byw yn Buenos Aires.
Dadbrisio'r arain
Ers dechrau'r argyfwng pan gyhoeddodd y wlad nad oedd modd iddi dalu'r dyledion mae'r sefyllfa wedi sefydlogi i raddau helaeth.
Mae'r cynnydd cyflymaf i'w weld fwya yn Comodre Rivadavia. Yno mae nifer o Archentwyr o dras Cymreig yn byw.
Mae'r ddinas yn ffynnu yn rhannol oherwydd pris allforio olew y wlad ar ôl i'w harian, y Pesos, gael ei ddadbrisio.
Mae Nestor Kirchner yn hannu o'r ardal
|
Mae arlywydd y wlad, Nestor Kirchner, yn hannu o'r ardal ac mae Gladys Jones yn credu bod hyn arwain at lwyddiant yr ardal.
"Mae'n rhoi llawer o gefnogaeth i Batagonia, yn dod yma llawer, yn gweithio efo llefydd twristiaid ac yn gweithio llawer efo llywydd arweinydd Chebut."
O dan arweiniad ei lywodraeth mae awdurdodau ym Mhatagonia yn ceisio datblygu twristiaeth a diwydiant ond un cam yn unig ydi gwella'r economi.
Mae'r Achentwyr am weld buddsoddiad mewn addysg a iechyd hefyd.
"'Dan ni'n disgwyl iddo fo wella ysgolion, iechyd a rhoi digon o waith i'r bobol," meddai Victoria Pritchard.
Methodd yr arlywydd ag ennill mwyafrif clir yn yr etholiad.
Ond yr hyn sydd wedi synnu llawer ydi maint y gefnogaeth sydd iddo erbyn hyn.
Yn ôl un arolwg barn diweddar mae hyd at 80% o bobol o'i blaid.
Mae'n ymddangos mai Patagonia, ardal a fu am flynyddoedd yn angof, sydd ar flaen y gad yn y frwydr i adfer iechyd economaidd Yr Ariannin.
Manylu, BBC Radio Cymru, Dydd Sul am 1803 BST.