Caeodd mwy na 100 o gartrefi gofal yng Nghymru y llynedd
|
Gallai argyfwng cartrefi nyrsio yng Ngeredigion arwain at gost o fwy na £1m y flwyddyn i drethdalwyr.
Mae Ceredigion, fel nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru, yn wynebu problem prinder gwelyau nyrsio i'r henoed.
Y llynedd caeodd 100 o gartrefi gofal yng Nghymru.
Yng Ngheredigion mae tri chartre nyrsio preifat allan o bedwar ar werth.
Yn amal, mae'r ddarpariaeth yn golygu fod yr henoed yn gorfod teithio'n bell.
O dan ystyriaeth y mae cartre newydd yn Aberystwyth ond ddydd Mawrth sylweddolodd y cyngor y byddai'n costio mwy na £1m i gynnal.
 |
Dyw'r system ddim yn gweithio...rhaid gwneud rhywbeth fel y gallen nhw dderbyn gofal ... sy'n agos at eu teuluoedd
|
Roedd adroddiad i'r cyngor yr un diwrnod yn dweud fod llawer yn poeni oherwydd bod rhaid i'r henoed deithio'n bell tu allan i'r sir.
Mae Andrew Clode o Lanfihangel y Creuddyn, ger Aberystwyth yn gwybod am y problemau.
Ym mis Awst 2003 roedd ei fam 90-oed i fod i gael ei symud o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, i uned nyrsio yn Aberteifi.
Byddai hyn wedi golygu taith yn ôl ac ymlaen o bron i 100 milltir.
Dyfeisgar
Yn y pen draw, cafodd ei fam ei symud i gartre 20 milltir i ffwrdd. Bu farw yn y mis Medi.
"Ro'n i'n moyn i Mam sefyll yn ardal Aberystwyth ond doedd hyn ddim yn bosib.
"Dyw'r system ddim yn gweithio.
"Rhaid gwneud rhywbeth fel y gall yr henoed dderbyn gofal mewn cartrefi sy'n agos at eu teuluoedd."
Roedd rhaid i Andrew Clode deithio'n bell i ymweld â'i fam
|
Dywedodd Maureen Wootton o Age Concern Ceredigion fod angen agwedd fwy dyfeisgar.
"Dylid ystyried cyfuniad o lety noddedig a gofal nyrsio ar yr un safle," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad fod taclo'r broblem yn flaenoriaeth.
"Neilltuwyd £4m i fyrddau iechyd lleol ac ym mis Ionawr cyhoeddwyd y byddai gwasanaethau cymdeithasol yn derbyn £19.5m.
"Mae nifer o gynlluniau ledled Cymru sy'n enghreifftiau da o sut i ofalu am bobol gartre neu yn y gymuned."