Mae ymgynghori ers yr hydref, medd yr awdurdodau
|
Mae prifysgol yn penderfynu a fydd yn cau pedair adran.
Corff rheoli Prifysgol Abertawe sy'n penderfynu a fydd yn cau pedair adran, athroniaeth, cymdeithaseg ac anthropoleg, astudiaethau datblygu a chemeg.
Mae'r Is-Ganghellor, yr Athro Richard B Davies, wedi dweud ei fod am ganolbwyntio adnodau ac ehangu pynciau mwy poblogaidd.
Ond mae darlithwyr a myfyrwyr wedi dweud fod cwtogi'n bygwth statws y brifysgol.
Yn Ionawr y cefnogodd corff rheoli'r brifysgol y cynllun mewn egwyddor.
Ers hynny mae deisebau wedi eu hanfon a phrotestiadau wedi eu cynnal.
Mae undeb y darlithwyr, yr AUT, wedi gofyn i aelodau'r cyngor ymddiswyddo.
Yr honiad yw bod yr ailstrwythuro wedi ei gyhoeddi heb ymgynghori llawn.
Mae academwyr o brifysgolion a cholegau eraill wedi anfon llythyrau cefnogi.
Ond dywedodd yr Athro Davies fod yr ymgynghori wedi cychwyn ers yr hydref.
Yr Athro Davies: 'Myfyrwyr ar eu hennill'
|
Dywedodd y byddai'r adrannau hanes, Saesneg, daearyddiaeth, a chyfrifiaduron yn ehangu a 75 o swyddi'n cael eu creu o fewn y tair blynedd nesa.
Ni fyddai diswyddiadau gorfodol, meddai.
"Bydd myfyrwyr ar eu hennill oherwydd cyrsiau o'r safon ucha.
"O bryd i'w gilydd rhaid i bob prifysgol addasu eu cyrsiau oherwydd galw'r myfyrwyr."