'Mae'r Eisteddfod wedi datblygu i fod yn un o wyliau gorau Ewrop'
|
Mae Eisteddfod Casnewydd wedi gosod y safon y bydd raid i bob Eisteddfod arall yn y dyfodol geisio ymgyrraedd â hi.
Dyna ddywedodd Paul Flynn AS Casnewydd fore Sul.
Ond dywedodd, hefyd, fod y pafiliwn yn rhy fawr a dylid cael un llai, ac y dylid cael mwy o weithgareddau o gwmpas y Maes.
Er hynny, roedd hi yn llwyddiant sylweddol - yn ddiwylliannol a chymdeithasol, meddai.
Dywed bod cyfanswm y rhai fynychodd yr Eisteddfod - er iddi fod mewn ardal Seisnig - gystal â'r ffigyrau cyfartaledd gafwyd yn Eisteddfodau de Cymru dros y 15 mlynedd diwethaf.
"Mae hyn yn dda iawn wedi cyfnod o ddirywiad diweddar," meddai Mr Flynn.
 |
Nid rhywbeth i wneud neu golli arian yw'r Eisteddfod. Mae'n bwysicach na hynny. Mi wnaiff arian ddilyn llwyddiant
|
"Roedd y Maes yng Nghasnewydd yn ddathliad gwych o gerddoriaeth, llenyddiaeth a dawns.
"Roedd y perfformidau anffurfiol y tu allan i'r pafiliwn a'r canolfannau bwyd a diod yn fyw tan yn hwyr gyda'r eisteddfodwyr llon yn canu a chymdeithasu."
Ychwanegodd, er y bydd y pafiliwn yn parhau i fod yn ffocws i'r gweithgareddau, y dylid ei leihau i draean ei faint erbyn hyn.
Dylid yn y dyfodol, meddai, ehangu'r canolfannau perfformio allanol a'u gwneud yn addas i bob tywydd.
"Bob blwyddyn mae'r Eisteddfod yn adfywio a bywiogi enaid y genedl," medd Mr Flynn.
"Roedd Casnewydd ar ei gorau wrth gynnal gŵyl anghofiadwy a rhyfeddol.
"Roedd yr awyrgylch ar y Maes yn well eleni.
"Roedd yr Orsedd yno, roedd yna ddigwyddiadau - a chwrw.
"Roedd yna lwyfannau agored ar gyfer dawnsio a chanu.
Awyrgylch
"Roedd holl awyrgylch y Maes wedi newid."
Ond ychwanegodd bod gormod o sylw wedi ei roi i faterion ariannol.
"Nid rhywbeth i wneud neu golli arian yw'r Eisteddfod. Mae'n bwysicach na hynny. Mi wnaiff arian ddilyn llwyddiant."
Dywedodd Mr Flynn mai Eisteddfod 1953 oedd y gyntaf iddo ymweld â hi am wythnos gyfan.
"Yn honno roedd yna ffraeo am arian a'r iaith wedi i gôr gael caniatad i ganu mewn Almaeneg.
"Mae'r dadlau'n parhau ond mae'r Eisteddfod wedi datblygu i fod yn un o wyliau gorau Ewrop."
Daeth 148,178 o bobol i'r Eisteddfod eleni. Mae hyn yn cymharu â Meifod 2003 - 175,390 a Thyddewi 2002 - 126,761.