Elfed Roberts: 'Biliau sylweddol i'w talu erbyn mis Hydref'
|
Rhaid cael arian ychwanegol gan Fwrdd yr Iaith a Llywodraeth y Cynulliad neu mi fydd rhaid gwneud toriadau yn Eisteddfod Eryri y flwyddyn nesaf.
Dyna ddywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod Genedlaethol Elfed Roberts ar raglen Llinyn Mesur BBC Radio Cymru brynhawn Sul.
Dydd Sadwrn cyhoeddodd yr Eisteddfod apêl am £300,000 gan garedigion yr Eisteddfod i glirio ei dyledion.
"Os na chawn ni arian o sawl ffynhonnell i'n galluogi ni i dalu dyledion erbyn mis Hydref, mi fydd rhaid gwneud toriadau," meddai Mr Roberts.
Dywedodd fod Eisteddfod Casnewydd wedi dechrau gyda dyled o £120,000.
 |
Mi all y toriadau fod yn unrhyw beth. Torri adrannau efallai? I gael hyd i £120,000 byddai rhaid gwneud taliadau sylweddol iaw
|
Ond er i'r nifer ddaeth i'r Eisteddfod bron â chyrraedd y targed, ni chyrhaeddwyd y targedau gyda'r cronfeydd lleol a nawdd.
"Ni wnaeth pobol heidio i'r pafiliwn gyda'r nos," meddai Mr Roberts. "Roedd hyn braidd yn siomedig".
Dywedodd bod biliau sylweddol i'w talu erbyn mis Hydref.
Roedd tri dewis gan yr Eisteddfod, meddai, gwneud apêl i garedigion yr Eisteddfod, gwerthu asedau neu werthu'r swyddfa ganolog yng Nghaerdydd a'r storfa yn Llanybydder.
"Y cwestiwn yw," meddai, "a fedrwn ni dalu'r biliau i gario mlaen?
"Rhaid cael arian ychwanegol gan Lywodraeth y Cynulliad a Bwrdd yr Iaith neu mi fydd rhaid gwneud toriadau.
"Mi all y toriadau fod yn unrhyw beth. Torri adrannau efallai? I gael hyd i £120,000 byddai rhaid gwneud taliadau sylweddol iawn."