BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 8 Awst, 2004, 10:01 GMT 11:01 UK
Angen adfer 'eglwys Glyndwr'
Straeon poblogaidd eraill:

Chwe chanrif wedi iddi gael ei llosgi mae angen trwsio'r eglwys lle roedd Owain Glyndŵr yn addoli.

Yr amcangyfri yw y bydd y gwaith i gyd yn costio 150,000.

Cafodd eglwys wreiddiol Sant Silin yn Llansilin, Powys a neuadd Owain Glyndŵr gerllaw eu llosgi'n llwyr wedi Brwydr Amwythig yn 1403.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach ailgodwyd yr eglwys ac erbyn hyn mae'r adeilad ar restr Gradd I.

Sant Silin yw'r unig blwyf eglwysig yng Nghymru thir yn Lloegr ac mae'r darn hwn o dir dan ofal Archesgob Cymru yn lle Archesgob Caer-gaint.

Eglwys Llansilin
Mi fydd yr adeilad ar ochr yr eglwys hynafol yn cael ei ddymchwel
Oherwydd oed a nodweddion hynod yr eglwys mae wedi bod yn anodd trwsio'r adeilad.

Ond, wedi trafodaethau hir, mae'r Eglwys yng Nghymru a'r awdurdodau cynllunio o blaid cael gwared ar hen dŷ boeler o oes Fictoria a chodi ystafell gymunedol yn ei le.

"Roedden ni'n cydnabod bod yr eglwys yn drysor cenedlaethol sy'n perthyn i bobol Cymru," meddai'r Parchedig Kit Carter, Ficer Sant Silin.

"Ond mae hi'n dal yn eglwys y plwyf i ni ac heb rhywfaint o newidiadau all hi ddim gwasanaethu'r gymuned."

Straeon Glyndŵr
Arfbais Glyndŵr

Mae'r newidiadau'n mynd i gostio 150,000 ac eisoes mae'r plwyfolion wedi codi 100,000.

Bydd diwrnod arbennig ddiwedd Awst fel y gall pobol leol a thrwy Gymru a'r Gororau gyfrannu at y gronfa.

Nid Owain Glyndŵr yw'r unig un enwog chysylltiad 'r eglwys, meddai'r ficer.

"Mae'r bardd Eos Ceiriog wedi ei gladdu yma. Mi wnaeth George Borrow sn am yr eglwys ac mae cyfeiriad ati yn un o lyfrau Cadfael.

"Yn achos unrhyw eglwys arall byddai'n haws ac yn rhatach i godi estyniad ond yma mae gennym ni gyfrifoldeb arbennig.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd pawb sy'n poeni am dreftadaeth Cymru yn cyfrannu."




HEFYD:
Dadorchuddio 'cleddyf Glyndwr'
06 Mai 04  |  Newyddion
Cyhoeddi dathliadau Glyndwr
04 Ion 04  |  Newyddion
Darganfod rhan o gastell Glyndwr
29 Ebr 03  |  Newyddion
Cyhoeddi stamp brwydr Glyndwr
15 Meh 04  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^