R Alun Evans: Angen chwistrelliad o arian i sicrhau dyfodol yr Eisteddfod
|
Mae trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio apêl oherwydd yr argyfwng ariannol - a hynny yn dilyn wythnos lwyddiannus iawn yng Nghasnewydd.
Oni bai y bydd yr Eisteddfod yn derbyn chwistrelliad sylweddol o arian mae dyfodol prif ddigwyddiad diwylliannol a chelfyddydol Cymru mewn peryg, medd y trefnwyr.
Mewn cyfarfod ar y Maes ddydd Sadwrn cafodd swyddogion yr Ŵyl wybod bod angen £300,000 cyn yr Hydref i sicrhau na fydd rhaid i'r Eisteddfod Genedlaethol werthu unrhyw asedau.
Daw hyn yn dilyn trafodaethau hir gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth y Cynulliad.
Ond dywed yr Eisteddfod nad oedd modd iddyn nhw aros yn hirach am benderfyniad ac felly maen nhw am wneud rhywbeth eu hunain.
Nid apêl yw hon am na fydd arian yn dod o Llywodraeth y Cynulliad ond ymgais ychwanegol ar ran yr Eisteddfod ei hun i sicrhau y bydd yr Ŵyl yn parhau ac yn llwyddiannus, medden nhw.
"Am resymau ymarferol allwn ni ddim aros am benderfyniad ac felly mae'n rhaid lansio'r apêl yma," meddai llywydd Llys yr Eisteddfod, Dr R Alun Evans.
Mae'r apêl yn mynd allan i holl garedigion a chefnogwyr yr Eisteddfod i wneud cyfraniad ariannol.
Mae dyfodol ariannol yr Eisteddfod heb yr arian yma mewn peryg, medden nhw.
Eisteddfodwyr
"Mae'r Eisteddfod yma yng Nghasnewydd a'r Cylch wedi bod yn ŵyl nodedig iawn ac mae cefnogaeth trigolion yr ardal wedi bod y tu hwnt," ychwanegodd Dr Evans.
"Mae'n dyled yn fawr i'r criw bach a gweithgar o dan amgylchiadau anodd iawn ac rydym wedi cael gŵyl gofiadwy.
"Ond mae sefyllfa ariannol yr Eisteddfod yn gyffredinol yn fregus iawn oherwydd y problemau niferus a gafwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Mae'r apêl yn mynd allan i holl eisteddfodwyr a charedigion yr Eisteddfod i wneud cyfraniad ariannol uniongyrchol.
Dafydd Whittall: Angen sicrwydd ariannol
|
"Heb eich cefnogaeth, mae dyfodol yr Eisteddfod mewn gwir beryg.
"Eisoes, o fewn hanner awr i lansio'r apêl, mae rhai o swyddogion yr Eisteddfod wedi cyfrannu fel arwydd o ewyllys da ac mae yna £5,000 yn y coffrau i ddechrau'r apêl.
"Fe fydd llythyr yn mynd allan i bob aelod o'r llys yn ystod y dyddiau nesaf a gobeithio y bydd yr apêl yn cael ei lledu at bawb sy'n dymuno gweld yr Eisteddfod yn parhau."
Dywedodd Dr Evans nad ydi'r apêl yma yn arwydd bod y trafodaethau gyda'r Bwrdd Iaith a Llywodraeth y Cynulliad wedi methu ond nad oedd modd i'r Eisteddfod barhau heb benderfyniad.
"Mae'r wythnos yma yng Nghasnewydd wedi bod yn un llwyddiannus iawn," meddai Dafydd Whittall, is-gadeirydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Er hynny, mae'n rhaid cael £300,000 er mwyn i ni gael sicrwydd ariannol fel y gallwn barhau gyda'r Eisteddfod, gyda'r rhai yn Eryri ac Abertawe, heb eu cwtogi na gwerthu asedau.
"Dyma'r amser gorau i lansio'r apêl - yn dilyn wythnos lwyddiannus iawn yma a gobeithio y gallwn ni adeiladu ar sail y llwyddiant sydd wedi bod yng Nghasnewydd."
Ychwanegodd y ddau bod y trafodaethau gyda Bwrdd yr Iaith a'r llywodraeth yn parhau ond bod angen y "chwistrelliad" o arian i roi sicrwydd i drefnwyr Eisteddfod Eryri y bydd hi'n cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
Fe fydd yn rhaid i'r Eisteddfod dderbyn yr arian cyn yr hydref, am y byddai'n anghyfrifol oedi ymhellach a bod biliau angen eu talu.
"Dewch, cefnogwch a dangoswch eich gwerthfawrogiad yn ymarferol," oedd y neges.