Ni fyddai'r gwasanaethau'n defnyddio awyrennau mawrion
|
Haneru'r amser teithio rhwng de a gogledd - dyna yw bwriad Gweinidog Datblygu'r Cynulliad.
Ddydd Llun cyhoeddodd Andrew Davies y byddai ymgynghori ar sut y gallai cwmnïau awyrennau wneud hyn a beth fyddai'r gost.
Y bwriad yw cael gwasanaethau awyr rhwng Penarlâg yn y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, Abertawe a Chaerdydd.
Dywedodd Mr Davies y gallai gwasanaethau awyr wella teithio o fewn Cymru.
"Gallen nhw haneru'r amser teithio," meddai, "hyd yn oed o gymryd teithio i'r meysydd awyr i ystyriaeth."
Cyhoeddodd ddydd Llun adroddiad ar wahanol rwydweithiau posib a faint oedd angen ei fuddsoddi yn y gwasanaethau ac yn y meysydd awyr.
Busnes
"Mae'r manteision posib yn bwysig o ran creu gwaith ac arbed amser i deithwyr.
"Ond mae manteision pwysig fel cysylltiadau busnes gwell a gwneud Cymru'n fwy deniadol i fuddsoddwyr ac ymwelwyr.
"Ac mae'n bwysig peidio colli golwg ar fanteision fyddai'n deillio o gau'r bwlch honedig rhwng y de a'r gogledd."
'Dim gwahaniaeth'
Dywedodd fod angen cydbwysedd rhwng gwasanaethau awyr a thargedau amgylcheddol Llywodraeth y Cynulliad.
Ni fyddai nifer fach o awyrennau bach yn gwneud gwahaniaeth, meddai.
Eisoes mae'r cynulliad wedi comisiynu ymchwil i lwybrau teithio posib, pa mor addas oedd meysydd awyr Cymru a beth fydd effeithiau economaidd ac amgylcheddol unrhyw ddatblygiadau.
Yn y cyfamser, mae cwmnïau Air Wales a BMIBaby wedi cytuno i hybu a marchnata rhai llwybrau teithio o Faes Awyr Caerdydd.