Elsie Nicholas oedd Seren y Steddfod
|
Gwraig ymroddedig yn ei 80au sydd wedi rhedeg ei heisteddfod leol am y degawd diwethaf yw Seren y Steddfodau eleni.
Elsie Nicholas, ysgrifennydd Eisteddfod yr Hendy, Pontarddulais, yw enillydd cyntaf Seren y Steddfodau.
Mae hon yn wobr flynyddol newydd i wirfoddolwyr.
Dderbyniodd ei thlws ar brif lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Sadwrn.
Pwrpas y wobr, a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Eisteddfodau Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yw anrhydeddu gwaith un gwirfoddolwr neu wirfoddolwraig bob blwyddyn - rhywun wnaeth gyfraniad eithriadol tuag at gynllunio, trefnu, codi arian neu redeg eisteddfod boed hynny'n lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.
 |
Mae eisteddfodau yn rhan hynod o bwysig o ddiwylliant Cymru ac mae cannoedd ar filoedd o bobol yn eu mwynhau bob blwyddyn
|
Elsie Nicholas sy'n bennaf gyfrifol am drefnu ei heisteddfod leol, o'r gwaith cynllunio a pharatoi, i arwain y tîm a sicrhau noddwyr.
"Ond yn bwysicach na dim arall, mae'n effeithiol iawn wrth sicrhau llawer o gystadleuwyr, drwy ei gwaith ar ran yr eisteddfod," meddai'r un a'i henwebodd, Garry Owen, aelod o bwyllgor yr Eisteddfod.
"Mae'n mynychu eisteddfodau mawr a bach er mwyn hysbysebu'r digwyddiad ac yn rhoi rhaglen yn llaw pob cystadleuydd.
"Mae'n dangos ymroddiad llwyr tuag at Eisteddfod yr Hendy yn benodol a'r byd eisteddfodol yn gyffredinol."
Dywedodd cadeirydd y Cyngor Gweithredu Gwirfoddol, Tom Jones, fod "eisteddfodau yn rhan hynod o bwysig o ddiwylliant Cymru ac mae cannoedd ar filoedd o bobol yn eu mwynhau bob blwyddyn.
"Mae eu llwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth ar wirfoddolwyr sy'n gweithio'n galed iawn yn y cefndir, mewn rhai achosion, fel Elsie Nicholas, am flynyddoedd lawer."
Roedd yna saith arall ar y rhestr fer:
Y Parchedig DJ Goronwy Evans o Lanbedr-Pont-Steffan, ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Rhys Thomas James ers ei dechreuad 35 mlynedd yn ôl.
Esyllt Jones Davies o Lanllyfni, Caernarfon, gwirfoddolwraig gydag Eisteddfod Gadeiriol Llanllyfni.
Mrs Anne Evans o'r Bala, aelod o bwyllgor gwaith Eisteddfod y Bala am 50 mlynedd.
Laura Richards o'r Trallwng, gwirfoddolwraig gydag Eisteddfod Powys a'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n glanhau ac yn gofalu am yr holl dlysau a'r gwobrau yn yr Esteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Powys am flynyddoedd lawer.
Elgan Jones o Gastellnewydd Emlyn, gwirfoddolwr gyda Gŵyl Fawr Aberteifi. Elgan Jones sy'n gyfrifol am holl waith yr adran gerdd. Bydd yn ymweld ag eisteddfodau a gwyliau cerddorol yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon, ac felly'n dod i gysylltiad â phobol sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth fel beirniaid a chystadleuwyr.
Mae Trefor Owen o'r Trallwng wedi bod yn gofiadur Eisteddfod Talaith a Chadair Powys am 20 mlynedd.
Gron C Elis o Dreffynnon, Sir y Fflint, ysgrifennydd a phrif weithredwr Eisteddfod Gadeiriol Treffynnon ers iddo'i sefydlu yn 1980, a bu'n arwain Eisteddfod Treuddyn am dros 30 mlynedd.