BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 6 Awst, 2004, 16:13 GMT 17:13 UK
Prifardd 'yn canu'n wefreiddiol'
Huw Meirion Edwards
Huw Meirion Edwards yw Prifardd Cadeiriol Casnewydd
Darlithydd yn y Brifysgol yn Aberystwyth, Huw Meirion Edwards, enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd 2004.

Lluniodd gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y thema Tir Neb.

Roedd pump ymgais arall wedi dod i law'r beirniaid, Elwyn Edwards, Tudur Dylan Jones ac Idris Reynolds.

Mae Dr Edwards, sy'n dod yn wreiddiol o Lanfairpwll, yn derbyn Cadair yr Eisteddfod a £750.

Dywedodd y beirniaid mai ymgais Neb ddaeth i'r brig er nad oedd y penderfyniad yn unfrydol.

Mae'r enillydd yn byw yn Bow Street ger Aberystwyth.

"O'r darlleniad cyntaf gwelsom ein bod yng nghwmni bardd ac ar ôl sawl darlleniad roedd rhywun yn cael mwy o afael ar ei gerddi bob tro," meddai Elwyn Edwards ar ran ei gyd-feirniaid.

'Yn gyson ac yn wastad'

"Fe gân yn gyson ac yn wastad ac ar dir uwch o lawer na'r gweddill yn y gystadleuaeth.

"Mae'n canu'n wefreiddiol mewn mannau ac mae'n defnyddio sawl mesur i gyfleu ei neges.

"Mae'n hollol amlwg ei fod wedi myfyrio'n ddwfn ar destun pob cerdd cyn bwrw iddi ac mae ei iaith a'i gynghanedd yn lân ac mae'n feistr corn ar ei grefft a'i gyfrwng.

"Wedi sawl darlleniad pellach ar waith Neb, ni laciodd gafael y cerddi ar Tudur Dylan Jones na minnau a barnwn eu bod yn deilwng iawn o'r Gadair a phob anrhydedd a ddaw o hynny."

Roedd Mr Edwards yn poeni am safon mwyafrif y chwe chystadleuydd eleni.

Dafydd ap Gwilym

Cafodd Dr Edwards ei addysgu yn Ysgol Uwchradd David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Gyfun Llanhari.

Graddiodd mewn Cymraeg a Ffrangeg ym Mangor a derbyniodd ei ddoethuriaeth yn 1993 o Goleg yr Iesu Rhydychen am astudiaeth o waith Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr.

Ers 1992 mae'n ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yn Aberystwyth.

Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau ac mae'n paratoi rhifyn newydd o gerddi Dafydd ap Gwilym mewn llyfr ac ar ffurf electroneg.

Bu'n feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen yn Llanelli 2000.

Ymgeisiodd o'r blaen am y gadair - yn y flwyddyn yr enillodd un o'r beirniaid eleni, Tudur Dylan Jones, ym Mro Colwyn yn 1995.

Un peth a'i symbylodd oedd awdl fuddugol Twm Morys y llynedd.

O'r darlleniad cyntaf gwelsom ein bod yng nghwmni bardd...
Elwyn Edwards ar ran cyd-feirniaid

Roedd y testun eleni yn apelio, meddai, am ei fod mor awgrymog a phenagored.

Cwpled olaf y gerdd gyntaf, "Haws troedio tir ystrydeb/ Na rhynnu'n noeth yn nhir neb" oedd y man cychwyn.

Mae cerddi'r rhan gyntaf yn gerddi am yr hyn sy'n medru digwydd mewn unrhyw berthynas pan fydd angerdd yn troi'n arfer, cerddi am wacter emosiynol.

Gwacter moesol sydd wrth wraidd yr ail ran sef Y Tir Diffaith ac mae cysgod Medi 11 yn drwm ar y cerddi hynny yn ogystal ag Afghanistan ac Irac.

Sôn am eira mawr mis Chwefror y mae'r rhan olaf a'r darlun o'r cudyll yn gwylio'i brae yn dwyn i gof erchyllterau'r meddyg Harold Shipman.

Mae Mr Edwards yn briod â Meinir ac yn dad i Efa a Dylan.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^