Archdderwydd newydd: Selwyn Griffith
|
Y Prifardd Selwyn Griffith sydd wedi cael ei ethol yn Archdderwydd newydd.
Mae'n olynu'r Prif Lenor Robyn Lewis pan ddaw ei gyfnod i ben yn seremoni croesawu Eisteddfod Abertawe y flwyddyn nesaf.
Bydd Mr Griffith yn arwain ei seremoni gyntaf yn Eisteddfod Eryri ym Mangor yn 2005.
Roedd dau brifardd wedi ymgeisio am y swydd, Mr Griffith a'r Prifardd Gwynn ap Gwilym.
"Dwi ddim wedi sobri eto ers cael gwybod," meddai ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud yng nghyfarfod Gorsedd y Beirdd ddydd Gwener.
"Dwi'n siwr y caf funud o dawelwch ac amser i ystyried y penderfyniad.
Newydd a'r hen: Selwyn Griffith a Robyn Lewis
|
"Yn sicr, mae'n brofiad arbennig iawn ac yn anrhydedd arbennig.
"Wnes i ddim breuddwydio erioed y byddwn rhyw ddydd yn Archdderwydd."
Mr Griffiths enillodd y Goron yn Eisteddfod Dyffryn Conwy yn 1989.
"Roeddwn wedi breuddwydio cael ennill y Goron ond erioed wedi meddwl y byddwn ni'n Archdderwydd," meddai'r dyn sy'n byw ym Mhenisarwaun ger Caernarfon ond a ddaw'n wreiddiol o Fethel.
"Dwi'n edrych ymlaen at yr Eisteddfod gynta i mi fel Archdderwydd, yn Eryri, ar fy llibart fy hun i bob pwrpas.
Tîm ffwtbol
"Mae fel tîm ffwtbol yn chwarae adre ac felly mae'n gysur mawr."
Dywedodd bod sawl person wedi gofyn iddo a fyddai'n dweud unrhyw beth dadleuol fel ei ragflaenydd.
"Fe fydda i'n osgoi creu helynt," meddai. "Dwi ddim yn mynd i ddweud dim byd dadleuol.
"Ond os y bydda i'n dweud unrhyw beth dadleuol, a gobeithio na fydda i, yna dweud rhywbeth sy yn fy nghalon i y bydda i.
"Nid dweud beth bynnag er mwyn ennill penawdau y bydda i."