Mae pryder fod natur genhadol yr Eisteddfod mewn peryg.
|
Mae cadeirydd Bwrdd yr Iaith wedi dweud ei fod wedi ei siomi â'r awgrym na fydd yr Eisteddfod yn ymweld ag ardaloedd di-Gymraeg.
Rhybuddiodd Trysorydd Cyngor yr Eisteddfod ac un o arweinwyr y CBI yng Nghymru, Eric Davies, bod yr ŵyl eleni'n siwr o wneud colled.
Byddai'n ormod o risg, meddai, i fynd â'r Eisteddfod i ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn gryf.
Ond dywedodd Rhodri Williams fod hyn yn cyfleu'r neges anghywir ac na fyddai'r sylwadau'n helpu'r Eisteddfod i gael nawdd ychwanegol o'r pwrs cyhoeddus.
"Mae hyn yn siomedig iawn. Mae'r Eisteddfod yn gofyn ar hyn o bryd am ragor o gefnogaeth o'r pwrs cyhoeddus, gan y bwrdd, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a buaswn i'n meddwl mai dyma'r neges gwbwl anghywir i fod yn ei gyflwyno i ni ac i Lywodraeth y Cynulliad," meddai Mr Williams.
"Os oes angen rhagor o gefnogaeth yna mae'n rhaid i'r Eisteddfod barhau i gwrdd ac amcanion y llywodraeth yn Iaith Pawb ac amcanion y Bwrdd."
Roedd Trysorydd Cyngor yr Eisteddfod yn trafod mantolen ariannol yr Eisteddfod yng nghyfarfod blynyddol y Llys ddydd Iau.
Gyda'r coffrau'n gwacau mae Mr Davies yn ofni fod natur genhadol yr Eisteddfod mewn peryg.
Colled
Gyda miloedd lawer wedi heidio i'r Maes dros yr wythnos, dydy hi ddim yn amlwg o grwydro'r Maes fod hon yn Eisteddfod sydd ddim yn gwneud arian.
Ond gwneud colled fydd hi.
A dydy'r gronfa leol ddim wedi cyrraedd ei tharged chwaith.
Mae yna rybudd na all yr wyl barhau i ddod i ardaloedd fel Casnewydd.
"Mae'r coffrau wrth gwrs yn gwacau; mae'n amhosib i ni gymryd y risg ariannol i fynd i genhadu i lefydd fel Sir Benfro, Tyddewi, Casnewydd ac yn y blaen," meddai Eric Davies.
"Nid oblegid nad ydyn ni eisiau buddsoddi fel o'r blaen ond am nad ydyn ni'n gallu."
Y cyfanswm incwm ar gyfer 2003 oedd £3m a'r cyfanswm gwariant oedd £3.5m, felly gwnaed colled.
Ond fydd yna ddim problem pe byddai'r credydwyr eisiau eu harian yn gyflym.
Gan fod asedau'r Eisteddfod yn fwy na'r hyn sy'n ddyledus, dydy talu eu credydwyr ddim yn edrych yn broblem.
Problem tymor hir yw hi.
Os bydd yr Eisteddfod yn dal i wneud colled mi fydd yna effaith ar eu hasedau nhw.
Mae'r Maes ei hun yn cyfrannu £1m i goffrau'r Eisteddfod efo taliadau hawlfraint ar fwyd a darlledu yn gyfrifol am bron i hanner hyn, ond mae yna ddibyniaeth ar roddion hefyd.
Ac mae'r Archdderwydd wedi awgrymu y dylai aelodau Llys yr Eisteddfod gyfrannu mwy o'u pocedi eu hunain.
Mi fydd yna bwysau ar Lywodraeth y Cynulliad i gyfrannu mwy a hynny drwy Fwrdd yr Iaith.
Ond dydy'r Gweinidog Diwylliant yn addo dim.
"Mae'n hollbwysig bod Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi'r Eisteddfod," meddai Alun Pugh.
"Eleni rydyn ni'n rhoi £360,00, 20% yn fwy na'r llynedd."
Nawdd
Ac mae Mr Davies yn gresynu nad oes yna Gymro cyfoethog yn America yn barod i gyfrannu arian.
Mae Elin Maher, aelod o Bwyllgor Gwaith Casnewydd, yn mynnu y dylai'r Eisteddfod ymweld ag ardaloedd Seisnig.
"Rwy'n sylweddoli fod y sefyllfa ariannol wedi bod yn wannach yng Nghasnewydd oherwydd bod ganddon ni lai o wirfoddolwyr yma.
"Ond rhaid ystyried beth mae'r Eisteddfod wedi ei adael ar ôl yn yr ardal, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol.
"Rwy'n deall y problemau ond yn credu bod yn rhaid edrych ymhellach na'r problemau ariannol."
Mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod yn gweld y broblem yn un ehangach.
"Nid problem ariannol Eisteddfod Casnewydd ydy problem fwya'r Eisteddfod Genedlaethol ond y broblem bennaf ydy'r grant rydyn ni'n ei gael yn flynyddol gan Lywodraeth y Cynulliad," meddai Elfed Roberts.
"Allwn ni ddim agor eisteddfod yn unrhyw le, boed yng Nghasnewydd neu Eryri, efo diffyg o £100,000 - dyna ydy'r neges i Lywodraeth y Cynulliad.
"Mae pobol Casnewydd wedi gwneud gwyrthiau dros y blynyddoedd i gynnal yr wyl yma.
"Ac mae pobol leol wedi dod yma i gefnogi'r Eisteddfod.
"Oherwydd nad oes ganddon ni arian wrth gefn rhaid dweud - os nad ydyn ni'n cael arian ychwanegol fyddwn ni ddim yn gallu cynnal y math yma o wyl eto. "