Gweiddi: Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
|
Mae Llywydd y Cynulliad wedi galw'r rhai a gwynodd am siaradwr Saesneg ar Faes y Brifwyl yn ffasgwyr iaith.
Yr Athro Laura McAllister, cynrychiolydd Plaid Cymru ar Gomisiwn Richard, oedd yn annerch cyfarfod Cymru Yfory oedd o dan gadeiryddiaeth Archesgob Cymru Barry Morgan.
Dechreuodd siarad yn Gymraeg cyn troi i'r Saesneg am fod y Gymraeg yn ail iaith iddi.
Gwaeddodd rhai yn y gynulleidfa "Rheol Gymraeg" cyn i Dafydd Elis Thomas weiddi "ffasgwyr iaith" arnyn nhw.
Cerddodd yr athro a'r darlledwr Hywel Teifi Edwards ac Eleri Carrog o'r grŵp hawliau ieithyddol Cefn allan gyda hanner dwsin o bobol am fod yr Athro McAllister yn dal i siarad yn Saesneg.
'Parchu'
"Y rheol Gymraeg sy'n bodoli yn yr Eisteddfod," meddai Mr Edwards.
"Ro'n i'n disgwyl i'r rheol gael ei pharchu yn y cyfarfod."
Archesgob Cymru: 'Cynlluniau Llafur wedi eu llunio'n frysiog'
|
Ymddiheurodd Sion Brynach, trefnydd y cyfarfod oedd i fod i drafod cynlluniau Llafur i roi mwy o bwerau i'r cynulliad, cynlluniau gafodd eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Roedd Archesgob Cymru wedi dweud yn y cyfarfod nad oedd yn credu fod cynlluniau'r Blaid Lafur ynglŷn â datganoli'n mynd yn ddigon pell.
"Cyfaddawd anniben" oedd ei ddisgrifiad o gynlluniau Llafur i roi mwy o rym i'r cynulliad.
Dywedodd fod y cynlluniau wedi eu llunio'n frysiog o'u cymharu â'r broses ymgynghorol o ddwy flynedd arweiniodd at gyhoeddi Adroddiad Richard.