Adam Price ydi un o'r rhai sy'n cefnogi'r syniad
|
Cafodd ymgyrch newydd ei lansio ar y Maes yng Nghasnewydd ddydd Iau i geisio cael diwrnod o wyliau ar ddiwrnod cenedlaethol nawddsant Cymru.
Adam Price o Blaid Cymru a Henry Jones-Davies, golygydd cylchgrawn Cambria, oedd yn rhoi dechrau i'r ymgyrch, Amdani!
Bwriad Amdani! ydi lobïo'r Llywodraeth yn San Steffan er mwyn dangos cryfder teimlad pobol Cymru tuag at gael diwrnod o wyliau.
Ar hyn o bryd does yna ddim diwrnod o wyliau swyddogol er bod nifer o gyrff gan gynnwys Cambria, Plaid Cymru, Cyngor Ynys Môn a chwmni cyfieithu Testun yn rhoi gwyliau i'w staff.
Eisoes mae'r Cynulliad wedi dweud ei fod yn gefnogol i gael diwrnod o wyliau ond nad oes modd iddo basio'r ddeddfwriaeth.
Y bwriad, yn ôl Mr Price, yw ceisio ennyn diddordeb a chasglu cefnogaeth fel y gall y llywodraeth yn San Steffan ddeddfu.
Ar hyn o bryd maen nhw'n anwybyddu'r mater, meddai.
Roedd Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, wedi galw ar i'r Cynulliad ymgynghori'n llawn gyda byd busnes cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
"Mae dwylo'r Cynulliad yn y Bae wedi eu clymu yn ôl Rhodri Morgan, does ond gobeithio y bydd modd i Lywodraeth San Steffan wneud rhywbeth," meddai Mr Price.
"Rydyn ni wedi lansio gwefan a fydd, gobeithio, yn ennyn cefnogaeth a hynny yn fwy na'r chwech ysgrifennodd at y llywodraeth yn gofyn am ddiwrnod o wyliau ar Ddydd San Siôr.
"Dwi'n gobeithio y byddwn yn gallu dangos bod cefnogaeth yma yng Nghymru i'r mater.
"Mae Cymru a gweddill Prydain yn cael llai o wyliau banc na'r un wlad arall yn Ewrop; dim ond gofyn am gael chwarae teg rydyn ni."
Ychwanegodd y byddai Amdani! yn galw am gefnogaeth eang yng Nghymru.
Eisoes ar y Maes ddydd Llun mae Nick Bourne o'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dangos ei gefnogaeth i'r un syniad.