BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Awst, 2004, 13:36 GMT 14:36 UK
Dysgu'n 'newid bywyd yn llwyr'
Lois Arnold
Lois Arnold: Ei bywyd wedi newid yn llwyr ers iddi ddysgu Cymraeg

Lois Arnold, y mae ei bywyd wedi newid yn llwyr, yw Dysgwraig y Flwyddyn.

Y ddynes o'r Fenni ond yn wreiddiol o Loegr enillodd y gystadleuaeth yn yr Eisteddfod nos Fercher.

Yr wythnos hon mae'r awdur cyfrol o straeon byrion i ddysgwyr wedi bod yn codi arian ar gyfer y Brifwyl.

"Mae fy mywyd i wedi newid yn llwyr ers i mi ddysgu Cymraeg. Doeddwn i ddim yn disgwyl i hynny ddigwydd ond mae wedi bod yn wych.

"Dwi wedi cael croeso mawr gan y gymuned Gymraeg a dwi wedi bod yn gwneud llawer o waith codi arian at yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Dwi ar bwyllgor Eisteddfod Y Fenni a dwi'n canu mewn côr Cymraeg."

'Yn lwcus iawn'

Mae'n diwtor Cymraeg ail iaith ym mro'r Eisteddfod.

"Dechreuais i ddysgu yn syth wedi i mi symud i Gymru o Fryste.

"Roeddwn i'n lwcus iawn i fyw yng Ngwent gan fod y ddarpariaeth mor dda i bobol sydd ishe dysgu Cymraeg.

"Es i i ddosbarthiadau nos i ddechrau ac ysgolion undydd.

"Rhyw chwe blynedd yn ôl y dechreuais i a bellach dwi'n dysgu fel tiwtor ac felly dwi'n ceisio lledu'r neges i bobol eraill."

Wedi ymweliad yr Eisteddfod â Chasnewydd yn 1988 mae nifer yn yr ardal wedi bod yn dysgu'r iaith ac mae nifer yr ysgolion cynradd wedi cynyddu.

"Mae yna bryder, yn enwedig gan fod cymaint o bobol ishe dysgu," meddai.

"Mae brwdfrydedd mawr yng Ngwent ar gyfer dysgu Cymraeg, yn enwedig nawr gan fod yr Eisteddfod yma ac mae angen rhagor o diwtoriaid.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^