BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 5 Awst, 2004, 12:57 GMT 13:57 UK
O Dde Affrica i arwain y Cymry
Tony Davies
Breuddwyd i Tony Davies fydd cael arwain y Cymry o Dramor

Mae dydd Iau yr Eisteddfod yn ddiwrnod i groesawu'r Cymry o dramor yn ôl i'r wlad.

Eleni fe fydd y seremoni yn wahanol i'r arfer gan gadw at y traddodiadau yn ogystal â dod ag elfennau newydd i gwmpasu'r tramorwyr sydd yma yn ogystal â chyfraniad Cymru yng ngweddill y byd.

Arweinydd y Cymry eleni yw Tony Davies o Dde Affrica.

Cafodd Mr Davies ei eni yng Nghroesgoch, Sir Benfro a'i addysgu yn yr ysgol gynradd ac yn Ysgol Ramadeg Dewi Sant yn Nhyddewi.

Mae ganddo gartref o hyd yng Nghroesgoch.

Dywedodd nad oedd erioed wedi breuddwydio y byddai'n cael yr anrhydedd yma.

"Dwi'n teimlo'n falch iawn ac mae'n anrhydedd arbennig," meddai.

"Fyddwn i ddim wedi breuddwydio y byddai crwt bach o Sir Benfro yn cael y fath anrhydedd.

"Mae'n deimlad bendigedig a doedd dim rhaid meddwl ddwywaith cyn derbyn."

Yn dilyn cwrs prentisiaeth peirianneg gyda chwmni ERF cafodd swydd gyda'r cwmni cyn cael ei wneud yn Rheolwr Cyffredinol y byd gyda'r cwmni.

Cyfarwyddwr

Mae'n deithiwr profiadol yn ei waith gan ymweld yn helaeth ag Ewrop, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, Seland Newydd, y Caribi ac America.

Yn 1975 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Rheoli ERF yn Ne Affrica.

Mae'n byw yn Johannesburg gyda'i wraig Wendy.

Mae eu meibion, Haydn a Martin, yn gyfreithwyr yn y ddinas.

Breuddwyd yn dod yn wir a dwi'n falch iawn
Tony Davies
Bu Mr Davies yn gweithio i ERF am 43 mlynedd cyn ymddeol ond mae'n dal i gadw'n brysur gan ei fod erbyn hyn yn un o gyfarwyddwyr Iveco Trucks South Africa Ltd.

Yn 1994 derbyniodd Mr Davies yr OBE am ei gyfraniad i ddiwydiant cerbydau Prydain.

Yn enedigol o dde Cymru a bellach yn byw yn Ne Affrica mae'n naturiol fod gan Mr Davies ddiddordeb mewn rygbi ac mae hefyd yn mwynhau rasio ar ddŵr.

Mae'n Llywydd Cymdeithas Witwatersrand a Chôr Meibion Cymru De Affrica.

Yn ôl Edward Morris Jones, Cadeirydd presennol Undeb Cymru a'r Byd, fe gafodd y seremoni ei newid wedi blynyddoedd o ddilyn yr un drefn a phryder am ei dyfodol.

Ehangu'r seremoni

"Mae ganddon ni elfen o ddawns, gyda dawnswyr Cwrdaidd o Gasnewydd a deunydd o dechnoleg newydd gyda negeseuon a fidio o lefydd fel Irac.

"Mae nifer yr ymwelwyr o dramor ag Eisteddfodau'r de yn wannach ond mae disgwyl tua 100 yma.

"Fe fyddwn ni'n cadw'r elfennau da o'r hen seremoni ond yn ei moderneiddio ac yn lledaenu enw da Cymru yn y byd yn ogystal â chroesawu'r Cymry yn ôl yma.

"Rwan rydan ni'n gorfod cydnabod ein bod ni isho cysylltu Cymry sy'n parhau oddi cartref a'r bobol sydd â diddordeb newydd yng Nghymru.

"Ffrindiau i Gymru o dros y byd, dyna ydi'r peth pwysicaf, ein llais ni o Gymru i'r byd a'r byd yn dylanwadu arnon ni yng Nghymru, dyna yw fy ngweledigaeth i a'r rhai sydd wedi bod efo ni dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn symud ymlaen."





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^