Meri Huws ydi'r wraig gynta i gadeirio'r bwrdd
|
Ar Faes yr Eisteddfod yng Nghasnewydd cyhoeddwyd mai Meri Huws fydd cadeirydd newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae Ms Huws, oedd yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1993 a 1997, yn bennaeth Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor.
Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant Cymru, wnaeth y cyhoeddiad am y wraig gynta i ddal y swydd.
Mae cyfnod Rhodri Williams fel cadeirydd yn dod i ben ddiwedd Awst ac ar ddiwedd 2003 cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru, y corff sy'n arolygu'r diwydiant cyfathrebu.
"Meri Huws yw'r person delfrydol i arwain gwaith Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ystod y tair blynedd nesaf," meddai Mr Pugh ddydd Iau.
"Gwnaeth argraff dda arnaf o ran ei hystod eang o brofiadau o fywyd, nid yn unig yn nhermau ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â'r iaith ond hefyd ym meysydd gwaith cymdeithasol, gofal iechyd ac addysg, yn arbennig dysgu gydol oes.
"Dyma feysydd allweddol y mae angen i ni eu datblygu er mwyn i'r iaith ffynnu."
Daw Ms Huws yn wreiddiol o Gaerfyrddin a derbyniodd ei haddysg yn Llandeilo ac Abergwaun.
Bu'n gweithio yn swyddfa academaidd Prifysgol Dulyn a bu'n rheoli Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Mae'n aelod o gyngor Cyngor Gofal Cymru.
"Derbyniaf rôl Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar adeg pan fo llawer wedi'i gyflawni eisoes a llawer i'w gyflawni eto er budd holl drigolion Cymru," meddai.
"Gwelais yr effaith y mae cynlluniau yn ymwneud â'r iaith Gymraeg wedi ei chael ar bobol ifanc ledled Cymru ac yn benodol yn Abergwaun lle cefais fy magu a dinas Casnewydd lle bûm yn gweithio am flynyddoedd lawer.
"Fy mwriad fel cadeirydd yw chwarae rhan annatod yn y cam nesaf o ddatblygu'r hyder hwn yng Nghymru."
Mae Ms Huws yn gyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a dywedodd bod yr iaith yn agos iawn at ei chalon erioed.
"Dwi wedi gweithio ac ymgyrchu dros yr iaith ers blynyddoedd ac wedi gweithio yn y ddwy iaith o fewn y sector cyhoeddus.
"Dwi wedi gweld twf a newidiadau dros y blynyddoedd ond rwy'n ffyddiog mai dyma'r ffordd ymlaen ac mae'n fraint i mi gael cyfrannu at y newid a fydd yn y blynyddoedd nesaf."
Dywedodd taw ei rôl oedd symud y Gymraeg ymlaen.
"Yn amlwg, mae fy nghefndir i ym maes addysg ac mae addysg yn aruthrol bwysig i mi ond maes arall pwysig i mi yw marchnata a hyrwyddo'r iaith.
"Fy ngobaith i mewn 10 mlynedd yw y bydd cant y cant o'r trigolion yn gallu dweud bod y Gymraeg yn perthyn iddyn nhw a'u bod yn gallu defnyddio'r iaith i ryw raddau."
Dywedodd ei bod yn adnabod ardal Casnewydd yn dda a bod enghreifftiau positif yno ac yn ardal ei magwraeth yn Abergwaun o ran twf y Gymraeg fel mewn nifer o ardaloedd eraill.
"Er fy mod yn dilyn Rhodri Williams fel cadeirydd fydda i ddim yn ei ddilyn ei ffordd yn llwyr gan fy mod, wrth gwrs, yn hoffi dilyn fy llwybr fy hun.
"Rwy'n derbyn y gwahoddiad i fod yn gadeirydd yn dwymgalon.
"Mae'r iaith Gymraeg yn wynebu sialens ac mae'n amser cyffrous i'r iaith a'r bwrdd."
'Cynnydd'
Dywedodd Mr Pugh fod y cyfnod nesa yn gyffrous o ran y Gymraeg.
"Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2001 gynnydd yn nifer a chanran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru am y tro cyntaf ers 1911," meddai.
"Mae Llywodraeth y Cynulliad am weld Cymru wir ddwyieithog ac, i'r perwyl hwn, mae hyrwyddo'r Gymraeg yn hanfodol.
"O ganlyniad bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn derbyn £16 miliwn yn ychwanegol yn ystod y tair blynedd rhwng 2003 a 2006 gan Lywodraeth y Cynulliad."
Bydd Ms Huws yn dechrau ar ei gwaith fel cadeirydd ar Fedi 1.
Ar dâl o £31,000 y flwyddyn mae disgwyl iddi neilltuo dau ddiwrnod yr wythnos at waith y bwrdd.