Mae'r trefnwyr eisiau i eisteddfodwyr ddweud os gwelan nhw arwyddion Saesneg
|
Mae yna rai Eisteddfodwyr yn anhapus fod yna nifer o arwyddion uniaith Saesneg i'w gweld ar y Maes yng Nghasnewydd.
Ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru, mi rybuddiodd y Prifardd Twm Morys y gallai rhai pobol ddewis peidio â chyfrannu at Brifwyl y flwyddyn nesa yn Eryri oni bai bod pethau'n gwella.
Ond mae trefnydd yr ŵyl honno wedi dweud bod sylwadau felly'n gyfystyr â blacmêl.
Mae rhai o'r arwyddion sydd i'w gweld ar ambell stondin yn corddi'r dyfroedd gan fod yna rai yn uniaith Saesneg.
Dydy hynny ddim wrth fodd dau brifardd yn benodol, Meirion McIntyre Huws a Twm Morys.
 |
Mae eisiau llinell yn y cytundeb i ddweud os nad ydy'r arwyddion yn Gymraeg mi fyddan nhw'n cael eu hel adra o fewn awr
|
"Dwi'n meddwl mai hon ydy'r Eisteddfod fwyaf Seisnig rydw i wedi bod ynddi ers sbel," meddai Twm Morys.
"Mi fuasai rhai'n dweud bod hynny i'w ddisgwyl gan ein bod ni yng Nghasnewydd a chan nad oes yna lawer yn siarad Cymraeg yma.
"Ond nid Casnewydd ydy'r Maes, efallai mai yng Nghasnewydd mae'r Maes, ond Cymru ydy'r Maes a'r Gymraeg rydyn ni'n ei dathlu bob blwyddyn yma.
"Methu dallt rydyn ni pam fod yna gymaint o arwyddion Saesneg yma.
"Dydan ni ddim yn dallt pam fod yna gymaint o arwyddion dwyieithog chwaith.
"Cymraeg ydy'r Eisteddfod i fod.
"Gweld rydan ni y dylai fod yna orfodaeth ar bawb i roi arwyddion Cymraeg i fyny."
"Mae yna reol iaith yn yr Eisteddfod a dydy'r trefnwyr ddim yn cadw ati nac yn ei gorfodi," meddai Meirion McIntyre Huws.
"Mae eisiau llinell yn y cytundeb i ddweud os nad ydy'r arwyddion yn Gymraeg mi fyddan nhw [y stondinwyr] yn cael eu hel adra o fewn awr."
Wrth ymateb dywedodd trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd, Hywel Wyn Edwards: "Mae yna reol ac mi rydyn ni'n gofyn i bobol ac yn taer erfyn ar bobol i gadw at y rheol.
Tynnu sylw
"Yr hyn sy'n bwysig ydy fod pobol yn dod aton ni ac yn tynnu sylw at y rhain.
"Mi fyddwn i'n ddigon hapus i fynd atyn nhw a siarad efo nhw.
"Mae hi'n fwy o broblem eleni yng Nghasnewydd, efallai am fod yma stondinwyr newydd sydd ond yma am eleni."
Ond roedd gan Twm Morys rybudd ynglŷn ag eisteddfodau'r dyfodol, oni bai bydd y sefyllfa o safbwynt arwyddion ar y maes yn newid.
"Os eith hyn ymlaen, mae'r bobol sy'n codi pres at yr eisteddfodau fel y rhai sy'n codi pres at y Steddfod nesa yn Y Faenol yn bryderus iawn ynglŷn â'r dyfodol ac yn bryderus bod eu pres nhw'n cael ei wario yn y modd yma," meddai.
Roedd ymateb Hywel Wyn Edwards i hynny yn chwyrn.
"Mae hwnna i mi yn swnio fel rhyw fath o flacmêl," meddai.
"Dydw i ddim am ymateb i hyn fwy na fyswn i i lythyrau dienw fyddai'n gael yn achlysurol yn y swyddfa.
"Dydw i ddim yn hoffi'r math yna o beth."
Mae trefnwyr y brifwyl yn dweud eu bod nhw'n cadw llygaid ar sefyllfa'r arwyddion.