Mae'r CD yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol Gymreig o'r 17eg i'r 19eg ganrif
|
Am y tro cyntaf ers cyn y Rhyfel Byd Cyntaf mi fydd yna gôr o delynau teires yn perfformio yn yr Eisteddfod.
Yng Ngwesty'r Angel, Y Fenni, y bydd y perfformiad gan gôr telynau Rhes Ganol a hynny i gyhoeddi eu CD 'Yn y Gwaed'.
Mae'r CD yn cynnwys cerddoriaeth draddodiadol Gymreig o'r 17eg i'r 19eg ganrif gan gynnwys Y Dydd sy'n cael ei pherffomio yn null Nansi Richards, ac oddi wrth Nansi Richards y daw teitl y CD hefyd.
Roedd G F Handel yn cyfansoddi darnau i'r delyn deires ond wedi dyfodiad y delyn bedal collwyd y delyn deires ymhob man ond yng Nghymru.
Yma, daeth y delyn deires yn offeryn traddodiadol.
"Rhes Ganol fydd y côr telyn deires cyntaf i berfformio yn yr Eisteddfod ers y Rhyfel Byd Cyntaf," meddai Howard Potter, cyfarwyddwr Recordiau Tant.
Llanofer
"Y côr diwethaf o'r fath i berfformio oedd Côr Telyn Deires Llanofer a hynny yn Eisteddfod y Fenni yn 1913."
Cafodd Rhes Ganol ei ffurfio yn 2000 gan bump o gerddorion Cymreig oedd am adfer y traddodiad.
Yn ogystal â pherfformio, mae Rhiain Bebb, Robin Huw Bowen, Huw Roberts, Wyn Thomas a Steffan Thomas yn cynnal gweithdai mewn ysgolion a cholegau er mwyn codi'r diddordeb yn ein hofferyn cenedlaethol.
Mae gwreiddiau'r offeryn yn yr Eidal yn ystod cyfnod y dadeni hwyr.
Daeth i Lundain lle gwnaeth grŵp o delynorion crwydrol Cymreig ei mabwysiadu a'i haddasu i gael ei chwarae ar yr ysgwydd chwith.
Dechreuwyd ei chynhyrchu yng Nghymru a daeth sawl teulu, gan gynnwys teuluoedd Romani, i'w throsglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.