BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Awst, 2004, 16:05 GMT 17:05 UK
Medal i 'gonsuriwr geiriau'
Annes Glyn o Riwlas ger Bangor sydd wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod yng Nghasnewydd ddydd Mercher.

Mae Ms Glyn o Frynsiencyn, Ynys Môn, yn derbyn y Fedal a £750, rhodd i gofio canmlwyddiant geni'r diweddar Dr John Gwilym Jones.

Penderfynodd y beirniaid, Hafina Clwyd, Harri Parri a'r Dr John Rowlands mai ymgais Mymryn oedd yr orau am gyfrol o ryddiaith heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Newid.

Mae ei chyfrol Symudliw wedi ei hysgrifennu mewn llên micro.

"Er, ar yr olwg gyntaf, ei bod yn bytiog ryfeddol ... mae yma hyd, lled, dyfnder, uchder, undod a phatrwm," meddai'r beirniad Harri Parri.

"Gellid ystyried y gyfrol naill ai'n ddilyniant o ddarnau gorffenedig o ryddiaith neu'n gadwyn o gerddi cain.

"Cyflwynodd flodeugerdd y gellid ei darllen â'r un gwynt a'i mwynhau, neu droi iddi'n achlysurol.

"Rhagoriaeth bennaf yr awdur yw ei fod yn gonsuriwr geiriau. Dyma enillydd gwir haeddiannol."

Dwy nofel

Nid dyma gyfrol gyntaf Ms Glyn.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf fe gyhoeddodd ddwy nofel, Dilyn Sgwarnog a Chwarae Mig.

Dyma'r ail dro iddi geisio am y Fedal ac mae'n teimlo'r anrhydedd o gael dilyn ôl traed rhai fel ei diweddar dad-yng-nghyfraith, Emyr Roberts, Y Rhyl, Angharad Tomos, Angharad Price, Robin Llywelyn ac yn arbennig eleni, Eirug Wyn.

Fe ddaeth y stori gyntaf iddi yn y casgliad tra oedd ar wyliau yn Andalwsia yn Sbaen y llynedd a'r un olaf tra oedd ar wythnos o encil yng Nghanolfan Tŷ Newydd ychydig ddyddiau cyn y dyddiad cau.

Mae pob un o'r straeon micro yn y gyfres yn ymwneud â gwahanol fathau o newid.

Tanio brwdfrydedd

Ar ochr ei thad mae ei gwreiddiau yn Nefyn ac yn Nyffryn Clwyd ar ochr ei mam.

Ar ôl cael ei haddysgu ym Mrynsiencyn ac Ysgol Uwchradd David Hughes ym Mhorthaethwy aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg.

Dywedodd ei bod am ddiolch yn gyhoeddus i'w hathro ym Mhorthaethwy R Arwel Jones am danio ynddi y brwdfrydedd mewn llenyddiaeth Gymraeg a'i hysbrydoli i ddechrau ysgrifennu.

Ar ôl graddio bu'n gweithio ar gylchgronau'r Urdd cyn bod yn ohebydd i bapurau'r Herald yng Nghaernarfon, Y Cymro ac yn ohebydd teledu a radio.

Mae'n gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun.

Mae'n briod â Dafydd a chanddyn nhw ddau o blant, Siwan Haf a Guto Rhys.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^