Erin Roberts: Wedi bod eisiau cyflwyno'r tywydd erioed
|
Mae gan S4C gyflwynydd tywydd, athrawes daearyddiaeth â diddordeb byw mewn meteoroleg.
Dewiswyd Erin Roberts i gamu i esgidiau Jenny Ogwen sydd wedi ymddeol.
Ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r haf y bydd hi'n cyflwyno bwletinau gan ei bod am ddal i ddysgu Daearyddiaeth yn llawn-amser yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn Fleur-de-Lys ger Y Coed Duon.
Dywedodd Erin sy'n wreiddiol o Bontllyfni ger Caernarfon ond yn byw yng Nghaerdydd ei bod wedi breuddwydio erioed am fod yn gyflwynydd tywydd.
"Mae fy mywyd yn mynd i fod yn reit brysur rhwng dysgu llawn amser a chyflwyno'r tywydd ond mi fydd yn her a doedd dim posib ei wrthod.
 |
Fy hoff gyflwynydd tywydd yw Helen Willetts ar y BBC. Dwi'n gobeithio gallu cyflwyno yn yr un ffordd gynnes a diddorol
|
"Dwi wrth fy modd yn dysgu ac yn cymryd diddordeb yn y tywydd.
"Mae'r disgyblion wastad yn cwyno mod i'n trin a thrafod y tywydd byth a hefyd ac mi fydda i'n waeth fyth rwan."
Ddeng mlynedd yn ôl, meddai, roedd yn gobeithio astudio meteoroleg yn y brifysgol ond roedd â'i bryd ar astudio yn Lerpwl gan ei bod yn ffan mawr o dîm pêl-droed Everton.
Felly dewisodd astudio daearyddiaeth fel gradd yn y ddinas.
Nid hi yw'r unig un o'r teulu ar y teledu - mae ei chwaer, Nest Williams, yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel newyddiadurwraig a chyflwynydd rhaglen Newyddion BBC Cymru.
"Mae'n rhyfedd iawn. Pan oeddem yn blant, roedd Nest yn siarad am fod yn gyflwynydd newyddion a finnau'n sôn am fod yn gyflwynydd tywydd.
'Rhannu tips'
"Mi fydd Nest yn siwr o rannu ychydig o dips efo fi, yn enwedig ar steil gwallt, dillad a cholur."
Ar Awst 9 y bydd Erin yn dechrau yn ei swydd.
"Fy hoff gyflwynydd tywydd yw Helen Willetts ar y BBC. Dwi'n gobeithio gallu cyflwyno yn yr un ffordd gynnes a diddorol.
"Mae'n sialens ond mae tîm cyflwyno'r tywydd yn S4C eisoes wedi bod yn groesawus."
Mae hi ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yr wythnos hon gyda'r côr newydd o dde-ddwyrain Cymru, Cwm Ni.