BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Awst, 2004, 15:14 GMT 16:14 UK
Medal arbennig i Eirlys
Eilrys Phillips
Eilrys Phillips dderbyniodd Fedal Syr T. H. Parry-Williams er clod eleni

Gwraig sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth i hyfforddi, arwain a chynnal gweithgareddau yn ei bro sy wedi derbyn medal arbennig yn yr Eisteddfod ddydd Mercher.

Eirlys Phillips dderbyniodd Fedal Syr T H Parry-Williams eleni.

Mae'r fedal yn cydnabod ac anrhydeddu gwasanaeth gwirfoddol a nodedig dros nifer helaeth o flynyddoedd ymhlith pobol ifanc mewn ardal neu gymdogaeth drwy'r iaith Gymraeg a'r diwylliant.

Yn ferch o Fryn Iwan, Sir Gaerfyrddin, mae hi wedi byw yno gydol ei hoes ac eithrio pan oedd yn gweithio yn Abertawe.

Mae ei dylanwad yn lleol ac yn genedlaethol yn gryf ym myd dawnsio gwerin.

Gyda'i gŵr Mansel Phillips mae wedi hyfforddi a chyfeilio dawnswyr Aelwydydd Pontardawe; Tawerin; Talog; Hafodwenog a Chlwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan.

Mae ei dawn cyfeilio yn aml yn denu pawb i wrando a chymryd sylw ac mae ei chariad at gerddoriaeth yn fwy na chyfeilio i'r dawnswyr.

Nid ei dylanwad ym maes cerddoriaeth yn unig sy'n amlwg - mae'n weithgar ym maes pêl-rwyd hefyd.

Mae ganddi ddawn i sbarduno plant a phobol ifanc.

Dywedodd ei bod yn falch iawn o'r anrhydedd ond bod gweld y bobol ifanc erbyn hyn yn hyfforddi ei gilydd a rhai llai yn rhoi boddhad mawr iddi.

"Bydda i'n cario mlaen i hyfforddi a chyfeilio ond mae'n braf gweld y rhai ifanc yn cymryd yr awenau," meddai.

"Dwi'n teimlo hi'n fraint ac yn anrhydedd i dderbyn y Fedal ac, er nad ydw i'n ifanc, dwi'n teimlo'n ifanc i dderbyn hon.

Eirlys Phillips gyda'i theulu (ch-dde Ei modryb, Tudur, Cerian, Mansel a Lleucu ac yn y blaen ei mam Eileen)
Eirlys Phillips yn dangos ei medal i'w theulu

"Dwi'n hynod o falch o'r ieuenctid ac roedd y seremoni ar y llwyfan yn un emosiynol iawn."

Dywedodd taw ei chyfrifoldeb oedd meithrin gwreiddiau cadarn mewn pobol ifanc.

"Rwy'n teimlo y dylwn eu hysbrydoli a'u cefnogi i'r eithaf i ddatblygu annibyniaeth fel y gallen nhw gymryd cyfrifoldeb dros hyfforddi ac arwain gweithgareddau eu hunain."

Roedd yn falch i weld cymaint o gyfeillion a phobol ifanc yn y seremoni.

"Mae'n braf iawn gweld y teulu yma," meddai. "Dwi'n gallu rhannu'r diwrnod arbennig yma gyda nhw."

Roedd ei gŵr Mansel, y plant, Tudur, Cerian a Lleucu yno yn ogystal â'i mam a'i modryb.





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^