Mae'r trefnwyr yn gobeithio cael 2,000 o danysgrifwyr wythnosol
|
Ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher cafodd cynllun i roi hwb ariannol i'r Brifwyl ei lansio.
Nod Hapnod ydi codi arian i'r Eisteddfod yn ogystal â chynnig gwobr wythnosol i'r Eisteddfodwyr.
Mae gwefan newydd yn cyd-fynd â'r lansiad a dywedodd y trefnwyr eu bod yn anelu at 2,000 o danysgrifwyr wythnosol.
Bydd hyn yn arwain at wobr ariannol o £1,000 yr wythnos a £1,000 arall yn y coffrau.
"Rydym yn gobeithio codi swm sylweddol o arian ar gyfer yr Eisteddfod yn y modd yma," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.
"Fe fydd 'na gyfle i ennill arian yn wythnosol wrth i'r chwe rhif gael eu tynnu.
"Fe fyddwn ni'n dosbarthu'r wybodaeth o amgylch Cymru ar sut i gael y loteri."
Wrth lenwi archeb banc sefydlog, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn cael chwe rhif am bob punt ar hap.
"Mae'r arian yma yn ychwanegol at arian nawdd sy'n cael ei roi i'r Eisteddfod," meddai Mr Roberts.
Arian nawdd
"Dyma'r tro cyntaf i ni wneud rhywbeth ein hunain sy'n ychwanegol at y cynllun Ffrindiau'r Eisteddfod," meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod, R Alun Evans.
"Roeddem yn teimlo bod rhaid gwneud rhywbeth uniongyrchol ein hunain i godi arian.
"Os bydd y cynllun yn gweithio, fe fydd er budd yr Eisteddfod ond fydd y cynllun yma ddim yn disodli Ffrindiau'r Eisteddfod."
Am fwy o fanylion ffoniwch Swyddfa'r Eisteddfod ar 029 20 763777.