R. Alun Evans: 'Y rheol iaith fel y mae hi yn wan'
|
Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod wedi mynnu y bydd newidiadau i gyfansoddiad yr ŵyl yn cryfhau'r rheol Gymraeg yn lle ei llacio.
Roedd R Alun Evans yn annerch cyfarfod arbennig o'r Llys ar Faes yr Eisteddfod nos Fawrth i drafod newidiadau posib i strwythur y Brifwyl.
Ond mae aelodau mudiadau Cefn a Chylch yr Iaith yn dweud fod y rheol eisoes wedi ei gwanhau.
Roedd rhyw 80 o aelodau Llys yr Eisteddfod yn y cyfarfod arbennig yn y Babell Lên.
Roedden nhw yno i glywed manylion y cynllun i ddiwygio cyfansoddiad yr ŵyl ddaeth yn sgil argymhellion Dr Terry Stevens ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Pryderon ynglŷn â'r rheol iaith oedd fwyaf amlwg yn y cyfarfod.
Mae'r cyfansoddiad, a gafodd ei newid ddiwethaf ar ddechrau'r 1980au, yn dweud mai'r Gymraeg yw iaith yr Eisteddfod a'r ŵyl.
'Llacio'
Yr awgrym ar gyfer y dyfodol yw y dylid cyflwyno cymal newydd yn dweud bod angen unfrydedd ymhlith aelodau Cyngor a Llys yr Eisteddfod cyn cyflwyno unrhyw newid i'r rheol.
Fyddai diwygiad o'r fath ddim wrth fodd Eleri Carrog o fudiad Cefn.
"Maen nhw'n cyfeirio at y Gymraeg fel iaith swyddogol. Dydi'r cyfansoddiad gwreiddiol ddim yn gwneud gwahaniaeth - Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod a'r ŵyl a dydi o ddim yn ei gyfyngu i'r Pafiliwn yn unig.
"Mae'n cynnwys bob peth a wneir yn enw'r Eisteddfod neu sy'n cael ei ganiatáu ar y Maes gan yr Eisteddfod.
"Be ydan ni'n ei weld ydi ei bod wedi cael ei llacio rwan.
"Un ai mae 'na reol Gymraeg neu does na ddim...da ni'n barod wedi gweld y craciau ynddi."
Cwmni cyfyngedig
Mae Llywydd y Llys yn dweud mai cryfhau'r rheol Gymraeg fyddai'r newid hwn.
"Mae'r rheol iaith fel y mae hi yn wan i ddweud y gwir. Mae'r cyfansoddiad presennol yn wan ar hwnnw, ond wedi dweud hynny fe fydd y rheol iaith yn y cyfansoddiad newydd yn dweud yn union yr un fath ond sut mae gweinyddu'r rheol iaith wedyn a sicrhau na fydd neb yn y dyfodol yn newid hwnnw, pwy bynnag fydd mewn grym.
"Sut mae dehongli'r rheol iaith y tu allan i lwyfannu'r ŵyl, dyna oedd y drafodaeth. Y defnydd neu'r diffyg defnydd o'r Gymraeg ar stondinau ac o gwmpas y Maes."
O dan y drefn newydd fe fyddai'r Eisteddfod yn cael ei throi'n gwmni cyfyngedig drwy warant gyda nifer o ymddiriedolwyr yn ogystal â chyngor neu fwrdd goruchwylio a'r Llys fel y mae ar hyn o bryd.
Ar ôl cael cyfle i gnoi cil dros yr argymhellion mae disgwyl i aelodau'r Llys bleidleisio'n derfynol a ydyn nhw eisiau eu derbyn neu beidio cyn diwedd y flwyddyn.