BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 4 Awst, 2004, 09:10 GMT 10:10 UK
Perthynas frau'r Archdderwydd a'r Cyngor
Robyn Llyn
Robyn Llŷn: 'Safwn yn y bwlch'

Mae'n ymddangos nad yw'r berthynas yn gwella o gwbl rhwng yr Archdderwydd a Chyngor yr Eisteddfod.

Fe wnaeth y Cyngor alw ar yr Archdderwydd Robyn Llŷn i ymddiheuro ar ôl gwneud sylwadau o'r Maen Llog ddydd Llun.

Fe wrthododd Dr Lewis wneud hynny a dydd Mawrth fe darodd yn ôl gyda datganiad diamwys.

Yn dilyn ei sylwadau fe ddywedodd Dr R. Alun Evans, aelod o'r Cyngor a Llywydd Llys yr Eisteddfod nad oedd yn deall pam fod Dr Lewis wedi gwneud y sylwadau fel y gwnaeth.

"Mae Robyn wedi creu ansicrwydd lle nad oes ansicrwydd, wedi creu amwysedd lle nad oes amwysedd a chreu cymhlethod ym meddyliau pobol," meddai.

Ddydd Mawrth fe wnaeth Dr Lewis daro'n ôl gan ddweud iddo gael ei frifo gan ymateb y Cyngor i'w sylwadau.

"Bu un neu ddau ohonyn nhw yn arbennig o ffiaidd eu beirniadaeth," meddai heb enwi neb gan ychwanegu i un ofyn am ymddiheuriad cyhoeddus yng nghyfarfod yr Orsedd ddydd Gwener.

"Ond does gen i ddim i ymddiheuro amdano," meddai.

Iaith Gymraeg

Yn wir, mae o wedi gwadu mai at Gyngor yr Eisteddfod yr oedd yn cyfeirio trwy ddefnyddio'r gair "moch" yn y dyfyniad o waith Saunders Lewis, Buchedd Garmon.

"Os yw aelodau'r Cyngor yn teimlo mai atyn nhw yr oeddwn yn cyfeirio maen nhw'n groendenau iawn gan orfodi rhywun i feddwl a oes ganddyn nhw rywbeth i'w guddio," meddai gan ychwanegu ei bod yn sefyllfa ryfedd iawn pan yw'r Archdderwydd yn cael ei feirniadu am ddyfynnu Saunders Lewis o bawb.

Roedd Dr Lewis wedi codi amheuon ynglŷn ag agwedd Cyngor yr Eisteddfod at "y rheol iaith" Gymraeg wrth annerch aelodau o'r Orsedd.

Dr R. Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod
Dr R. Alun Evans: Dim yn deall pam wnaeth Robyn Lewis y sylwadau
"Mae'n anodd deall pam y mae'r Archdderwydd yn creu rhwyg lle nad oes rhwyg," meddai Dr Evans ddydd Llun mewn cynhadledd newyddion gafodd ei alw'n arbennig ar ôl sylwadau Dr Lewis.

"Dydi'r rheol Gymraeg ddim dan fygythiad a does dim yr ydym ni wedi ei wneud yn debyg o'i gwanhau," meddai.

Gwadodd fod rheol Gymraeg yr Eisteddfod yn achosi unrhyw dramgwydd wrth geisio cael nawdd gan gyrff fel y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd Dr Lewis wedi annog aelodau'r Orsedd i wrthwynebu unrhyw benderfyniad gan y Cyngor i wanhau rheol Gymraeg yr Eisteddfod.

"Mae cyfansoddiad yr Eisteddfod yn nodi'n glir mai'r Gymraeg ydi iaith yr Eisteddfod," meddai'r Dr Evans.

Dywedodd i aelodau o'r Cyngor gyfarfod â Dr Lewis wedi'r araith a gofyn iddo ymddiheuro'n gyhoeddus.

Buchedd Garmon

"Yr ydw i'n siomedig gyda'r sylwadau ond dyma ddiwedd y mater o'm safbwynt i, yn bersonol ac o ran y Cyngor.

"Dwi ddim yn fodlon ei fod wedi defnyddio'r cyfle i drafod problem lle nad oes problem."

Yn ei araith o'r Maen Llog yr oedd Dr Lewis wedi dyfynnu geiriau enwog Saunders Lewis o Buchedd Garmon a'u cymhwyso at y ddadl dros reol Gymraeg yr Eisteddfod.

"Gyd Orseddogion," meddai "edryched pob un ar ei gydwybod ei hun, a safed yn y bwlch."

Yn ei araith roedd Dr Lewis wedi pwysleisio fod Gorsedd y Beirdd a Chyngor yr Eisteddfod yn ddau gorff gwahanol.

Roedd Gorsedd y Beirdd, meddai, "yn sefydliad sy'n hollol annibynnol ar Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ac (nid) oes gan yr Orsedd unrhyw gyfrifoldeb am yr hyn a wneir gan, neu yn enw, y Cyngor hwnnw."

Cyfeiriodd at ymroddiad llwyr yr Orsedd i'r rheol Gymraeg. "Cymraeg, a'r Gymraeg yn unig, yw iaith yr Orsedd."





CASNEWYDD A'R CYLCH 2004

O'R MAES

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF


ORIELAU

GWEFAN


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^