Mae'r troseddwyr yn gofyn i bobol am help i drosglwyddo symiau mawr o arian
|
Cyfaddefodd dyn o Nigeria, a gafodd ei arestio wedi i swyddogion diogelwch ei archwilio cyn iddo ddal llong o borthladd Caergybi, fod ganddo offer ar gyfer twyllo.
Mae hyn yn ymwneud â thwyll ariannol byd eang.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod gan Peter Okoeguale, 33, wraig a phlentyn yn Iwerddon.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa hyd nes y bydd yn cael ei ddedfrydu.
Ef yw'r person cyntaf i gael ei erlyn yng ngogledd Cymru am y twyll sydd yn cael ei adnabod fel y twyll Nigeriaidd 419.
Mae miloedd o negeseuon yn ymwneud â'r twyll hwn yn cael eu hanfon yn ddyddiol ar draws y byd.
Mae'r troseddwyr yn gofyn i bobol am help i drosglwyddo symiau mawr o arian o Nigeria yn gyfnewid am gyfran sylweddol.
Mae'r dioddefwyr wedyn yn cael eu twyllo i drosglwyddo arian gan gredu fod ei angen i ymdrin ag anhawster.
Ni chafodd yr achos yn erbyn Okoeguale ei amlinellu.
Cwynion
Ond dywedodd Heddlu'r Gogledd ei fod wedi creu dogfennau a disgiau cyfrifiadurol ffug a oedd yn gallu chwilio gwefanau am gyfeiriadau e-bost er mwyn anfon negeseuon twyllodrus.
Dywedodd ditectif gyda'r heddlu twyll nad oedden nhw'n gallu sefydlu yn union faint o arian oedd o wedi ei gael.
Ond roedd dau ddioddefwr o'r math yma o dwyll yn America a'r Alban wedi colli degau o filoedd o bunnau.
Mae heddlu twyll Heddlu'r Gogledd erbyn hyn yn derbyn o leiaf 15 o gwynion yr wythnos gan y cyhoedd ynglyn â thwyll 419.
Ond dywed swyddogion fod dioddefwyr yn aml yn teimlo gormod o embaras i roi gwybod iddyn nhw eu bod wedi eu twyllo.
Maen nhw'n cynghori pobol i beidio ag ymateb i lythyrau na negeseuon e-bost 419.