Enillodd fedal ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith
|
Nofelydd a rheolwr gyfarwyddwr Portmeirion sy wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.
Dywedodd Robin Llywelyn y cafodd y gwaith ei sbarduno ar y ffordd adref o Eisteddfod Meifod y llynedd.
Yn ôl y tri beirniad, Hywel Teifi Edwards, R Cyril Hughes a Manon Rhys, roedd gwaith Wil Chips yn haeddu'r wobr o'r fedal a £5,000.
Mae'r nofel yn dilyn diwrnod ym mywyd Wil Chips yn yr Eisteddfod.
Cafodd yr awdur ei symbylu i ysgrifennu'r gwaith wedi diwrnod ym Meifod - lle delfrydol, tywydd bendigedig a'i gyfaill Twm Morys yn ennill Cadair yr Eisteddfod.
Mae'r nofel, Un Diwrnod yn yr Eisteddfod, am helyntion Wil Chips am 24 awr ar ddydd Gwener yr Eisteddfod.
Naw cynnig ddaeth i'r gystadleuaeth eleni.
'Yn haeddu clod'
Dywedodd Hywel Teifi Edwards y daeth dwy nofel i'r brig ond oherwydd y cymeriad pwerus a pherthnasedd y dweud y derbyniodd Wil Chips y fedal.
"Mae'n nofel arbennig iawn a chreadigaeth gofiadwy ac mae Wil Chips yn haeddu clod am y gwaith."
Dywedodd y dylai pedwar neu bum nofel yn y gystadleuaeth gael eu darllen.
Brodor o Lanfrothen ydi'r awdur a raddiodd yn y Gymraeg a'r Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Mae'n byw ym Minffordd, Penrhyndeudraeth, ac yn gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr Portmeirion.
Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - am Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn 1992 ac O'r Harbwr Gwag i'r Cefnfor Gwyn yn 1994.
Mae wedi cyhoeddi cyfrol o straeon byrion, Y Dŵr Mawr Llwyd.
Mae'n briod â Siân ac mae ganddynt dri o blant.